Mwy o Newyddion
Gweledigaeth newydd 'Cymru Ddi-dipio’ i'w datguddio
BYDD partneriaeth Taclo Tipio Cymru a Llywodraeth Cymru’n cynnal cynhadledd yr hydref hwn er mwyn ymchwilio i dduliau cydweithio newydd er mwyn creu ‘Cymru Ddi-dipio’.
Yn y gynhadledd, bydd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer mynd i'r afael â thaflu sbwriel anghyfreithlon ledled Cymru, a sut y gall hyn helpu cynyddu balchder pobl yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt.
Bydd yr achlysur undydd yn cynnig i benderfynwyr a gwneuthurwyr polisi allweddol gyfle i ymuno â 50 partner menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Taclo Tipio Cymru, er mwyn helpu llunio’r modd yr eir i’r afael â’r broblem ddiangen a drud hon yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, canfuwyd cyfanswm o 36,000 achos o daflu sbwriel anghyfreithlon ar dir cyhoeddus Cymru rhwng dechrau Ebrill 2011 a diwedd Mawrth 2012, sef rhagor na phedwar achos yr awr. Costiodd y gwaith clirio £2.1 miliwn i drethdalwyr Cymru.
Trefnir y gynhadledd gan Daclo Tipio Cymru, sy’n cynnwys rhagor na 50 corff, o’r 22 awdurdod lleol a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i sawl corff amgylcheddol yn ogystal â chwmnïau’r sector breifat.
Cyhoeddwyd amryw fentrau gan y bartneriaeth ers ei sefydlu yn 2007 er mwyn helpu annog preswylwyr, tirfeddiannwyr a busnesau gael gwared ar wastraff mewn modd diogel, cyfreithlon a chyfrifol.
Cynhaliwyd cyrchoedd glanhau er mwyn uno cymdogaethau yn y frwydr yn erbyn taflwyr; profwyd technoleg cadw golwg SLF newydd yng nghymoedd y de er mwyn olrhain taflwyr, a chynhaliwyd ymgyrchoedd cludwyr gwastraff masnachol er mwyn annog cludwyr gwastraff i godi trwyddedau ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Dywedodd Helen Jenkins, Trefnydd Gymru Gyfan Taclo Tipio Cymru: “Bydd y gynhadledd yn gyfle i ymuno mewn trafodaethau pwysig ynghylch cyrraedd nod cyffredin: dileu taflu sbwriel anghyfreithlon.
“Mae taflu sbwriel anghyfreithlon yn drosedd ddi-synnwyr, ddiwyneb sy’n effeithio arnom oll. Mae’r mefl hwn ar ein tirweddau prydferth, ein trefi, ein dinasoedd a’n pentrefi hefyd yn difrodi’r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt. Gall effeithio ar brisiau tai, a gallai fygwth ffyniant economaidd Cymru trwy atal busnesau rhag buddsoddi.
“Trwy gydymuno er mwyn mynd i'r afael â’r broblem, rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol: ond y mae eto waith i’w wneud. Anogwn benderfynwyr a gwneuthurwyr polisi allweddol i ymuno â’r bartneriaeth wrth greu dyfodol di-dipio ar gyfer Cymru.”
Cynhelir y gynhadledd yn Stadiwm SWALEC Caerdydd ddydd Llun y 26ain o Dachwedd rhwng 10.30yb-3.30yp. Er mwyn sicrhau lle, neu ganfod rhagor am waith y bartneriaeth, ymwelwch ag www.flytippingactionwales.org.