Mwy o Newyddion
Dirwy i berchennog siop o Wynedd
Mae Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus wrth ddwyn achos yn erbyn perchennog siop o Dywyn, am werthu tân gwyllt o gefn fan.
Bu Roger Patrick Rees, perchennog siop Nick’s Basics yn Nhywyn Meirionnydd gerbron Llys Ynadon Dolgellau ar 27 Medi, 2012. Fe’i cafwyd yn euog o fynd yn groes i Ddeddf Ffrwydron 1875 am werthu tân gwyllt mewn man cyhoeddus ac o dan y Rheoliadau Tan Gwyllt 2004 am werthu tân gwyllt tu allan i’r cyfnod a ganiateir.
Gorchmynnwyd Rees i dalu dirwy o £790 yn ogystal â chostau o £200 a £15 o iawndal dioddefwr.
Bu i Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Gwynedd edrych i mewn i gwynion fod Rees yn gwerthu tân gwyllt o’i siop heb fod wedi cofrestru na’i drwyddedu i wneud hynny tu allan i’r cyfnod a ganiateir. Ceisiodd swyddogion brynu tân gwyllt o’r siop fel prawf, a gwerthwyd tân gwyllt iddynt o gefn fan wedi ei pharcio ar y Stryd Fawr yn Nhywyn. Roedd y gwerthiant yn cynnwys bocs gyda 30 o ddarnau tân gwyllt amryw, 2 x set o rocedi a 2 x set o ganhwyllau Rhufeinig - gwerth cyfanswm o £70.
Yn dilyn y gwerthiant, cynhaliwyd archwiliad o’r cerbyd a ddatgelodd nifer sylweddol o dân gwyllt a gafodd eu hatafaelu gan y swyddogion Safonau Masnach. Gorchmynnodd y Llys fod yr holl dân gwyllt yn cael eu fforffedu gan Mr Rees, a’i waredu gan y Cyngor.
Clywodd y Llys fod Mr Rees wedi derbyn cyngor yn flaenorol ynglŷn â’r gofynion i gofrestru ei eiddo cyn meddwl am werthu tân gwyllt ond ni chafodd cais am y fath gofrestriad erioed ei wneud.
Cyn cofrestru, mae’n rhaid i fasnachwyr brofi fod y tân gwyllt yn cael eu cadw yn unol â gofynion diogelwch caeth. Yn ogystal, dim ond am gyfnodau penodol o’r flwyddyn caiff tân gwyllt eu gwerthu ac mae’n rhaid i unrhyw fusnes sy’n dymuno eu gwerthu trwy’r flwyddyn gael trwydded sy’n costio £500.
Mae’r drefn gofrestru hefyd yn rheoli'r nifer o dân gwyllt sy’n cael eu cadw ar unrhyw adeg ac yn sicrhau fod y tân gwyllt eu hunain yn cydymffurfio a’r safonau diogelwch cenedlaethol. Yn ogystal, oherwydd pryderon diogelwch ynglŷn â chamddefnyddio tân gwyllt, mae gwerthiant wedi ei gyfyngu i bobl dros 18 oed.
Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros warchod y cyhoedd: “Fel Cyngor, rydym yn fodlon gyda phenderfyniad y Llys. Gyda noson tân gwyllt yn agosáu, byddwn yn galw ar bobl i gysidro diogelwch eu hunain, eu teuluoedd ac aelodau eraill o’r cyhoedd a dim ond prynu tân gwyllt gan fasnachwyr cofrestredig.”
Ychwanegodd Swyddog Gorfodaeth Safonau Masnach y Cyngor, Peter Johnstone: “Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn â’r ffordd mae tân gwyllt yn cael eu gwerthu neu eu storio, byddwn yn eu hannog i gysylltu ag Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd ar 01286 682728 neu safmas@gwynedd.gov.uk neu gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101.”