Mwy o Newyddion
11 Hydref 2012
Cadeirydd Awdurdod S4C yn croesawu aelodau newydd
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wedi estyn croeso cynnes i ddau aelod newydd o’r Awdurdod.
Mae neges Mr Jones yn dod ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gyhoeddi penodiadau Aled Eirug a Dr Carol Bell.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones: "Rwy’n falch iawn o groesawu’r aelodau newydd i Awdurdod S4C.
"Mi fyddwn yn elwa ar yr ystod eang a chyfoethog o brofiad a sgiliau sydd ganddyn nhw.
"Fe fydd ganddynt gyfraniad pwysig i’w wneud i’r gwaith o sicrhau fod S4C yn darparu gwasanaeth cofiadwy a chyfoes yn y cyfnod sydd o’n blaenau."
Llun: Huw Jones