Mwy o Newyddion
Penodi Aelodau Annibynnol i Fwrdd Iechyd Cwm Taf ac i Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Heddiw (dydd Iau 11 Hydref) cyhoeddodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd fod Maria Thomas a Jan Pickles OBE wedi’u penodi’n aelodau annibynnol i Fwrdd Iechyd Cwm Taf ac i Ymddiriedolaeth GIG Felindre, yn y drefn honno.
Mae Maria Thomas wedi’i phenodi am ddwy flynedd. Bydd yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £13,344 y flwyddyn, ac yn ymrwymo pedwar diwrnod y mis i’r gwaith. Mae Jan Pickles wedi’i phenodi am dair blynedd. Bydd hithau’n derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £9,360 y flwyddyn ac yn ymrwymo pedwar diwrnod y mis i’r gwaith.
Dywedodd y Gweinidog: “Rwy wrth fy modd bod Maria Thomas a Jan Pickles wedi penderfynu defnyddio’u sgiliau i gyfrannu at waith y GIG. Bydd eu profiad yn ein helpu wrth i ni roi’r newidadau angenrheidiol ar waith, er mwyn ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru – fel sydd wedi’i amlinellu yn ein gweledigaeth bum mlynedd, Law yn Llaw at Iechyd.”
Y Byrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am gynllunio, datblygu a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol, a gofal mewn ysbytai yn cael eu darparu. Maent hefyd yn gyfrifol am wasanaethau arbenigol ar gyfer dinasyddion yn eu hardaloedd eu hunain, pan fo angen y gwasanaethau hynny, er mwyn bodloni anghenion lleol a nodwyd yn y fframwaith polisi a safonau cenedlaethol a bennwyd gan y Gweinidog.
Unedau hunanlywodraethol yn y GIG yw Ymddiriedolaethau’r GIG. Maent yn gyfrifol am berchennogaeth a rheolaeth ysbytai, neu sefydliadau neu gyfleusterau eraill sydd dan eu gofal.
Mrs Maria Thomas
Bu Maria Thomas yn Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Llywodraethu Clinigol ar gyfer Cyn-Fwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful, ac mae bellach wedi ymddeol. Bu hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Nyrsio ar gyfer Cyn-Fwrdd Iechyd Lleol Merthyr a Rhondda Cynon Taf. Mae Maria yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, ac mae’n Rheolwr Cyswllt Annibynnol ar Banel Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Mae’n Gadeirydd i Gymorth Canser Macmillan Merthyr Tudful, yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr ar gyfer ysgol gynradd leol, ac yn Ynad Heddwch ar Fainc Cymoedd Morgannwg. Mae Maria hefyd yn Aelod o Bwyllgor Gweithredol Ysbyty Llygaid Urdd Sant Ioan yn Jeriwsalem – pwyllgor yng Nghymru sy’n codi arian at yr ysbyty. Nid oes ganddi unrhyw swyddi cyhoeddus Gweinidogol eraill.
Mrs Jan Pickles OBE
Mae Jan yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig a chymwysedig sydd wedi gweithio i’r Llywodraeth, i’r trydydd sector, i’r Gwasanaeth Prawf ac i’r NSPCC. Dyfarnwyd OBE iddi yn 2004 am ei gwaith wrth ddatblygu ymatebion aml-asiantaeth er mwyn asesu a rheoli risgiau cam-drin domestig ledled y Deyrnas Unedig. O 2006, bu Jan yn cadeirio model ar gyfer partneriaethau er mwyn rheoli trais rhywiol drwy sefydlu Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Caerdydd a’r Fro, a oedd yn cynnwys model radical ar gyfer rhannu gwybodaeth. Dyfarnwyd gwobr Cydnabyddiaeth Prif Weinidog Cymru iddi am y gwaith hwn yn 2010. Mae Jan yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i thri o blant. Nid oes ganddi unrhyw swyddi cyhoeddus Gweinidogol eraill.