Mwy o Newyddion
Dathlu Diwrnod T. Llew eleni gydag e-lyfr!
Heddiw, 11 Hydref, yw Diwrnod T. Llew Jones, diwrnod cenedlaethol i ddathlu bywyd a gwaith T. Llew Jones.
Bob blwyddyn, ar ddiwrnod ei ben blwydd, dethlir ei gyfraniad enfawr i’n llenyddiaeth.
Eleni gellir dathlu gydag e-lyfr wrth i Wasg Gomer gyhoeddi Trysor y Môr-Ladron, un o ffefrynnau’r plant ar ffurf e-lyfr, y cyntaf o lyfrau T. Llew yn y ffurf hwn.
Harri Morgan, dyna chi fôr-leidr lliwgar sy’n llwyddo i ddenu a difyrru darllenwyr ifanc a gwneud hynny ers dros hanner can mlynedd.
Cyhoeddwyd y nofel Trysor y Môr-Ladron am y tro cyntaf yn 1960 gydag argraffiadiau lu ers hynny.
Pwy feddyliai y byddai’r byd cyhoeddi llyfrau wedi newid cymaint drwy’r blynyddoedd.
Gyda recordiau, tâpiau a chryno-ddisgiau cerddoriaeth yn perthyn i’r gorffennol, pwy a ŵyr beth fydd dyfodol y llyfr!
Ond mae stori sy’n cydio yn y dychymyg a threiddio i fyd plentyn yn ffrwyth llenor plant o’r radd orau, ar bapur neu ar sgrîn.
Diolch T. Llew Jones!
Manylion Cyhoeddi
Trysor y Môr-Ladron [e-lyfr]
9781848515307
£4.99
Ar gael drwy Gwales.com