Mwy o Newyddion
Menter Iaith Sir Ddinbych ar ei newydd wedd
Lansio Logo newydd y Fenter
Yn ystod y Cyfarfod Blynyddol ar nos Fercher y 3ydd o Hydref 2012 lansiodd Menter Iaith Sir Ddinbych ei logo newydd.
Pam penderfynu newid y logo?
Ar Fawrth y 1af eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r ddogfen ‘Iaith fyw: Iaith byw’, strategaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Yn fuan ar ôl hyn fe ddaeth y Mesur Iaith newydd i fodolaeth ac ymhen ychydig amser wedyn fe benodwyd Comisiynydd y Gymraeg.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru’n cydnabod rôl bwysig y Mentrau Iaith i wireddu’r weledigaeth hon. Teimlwn felly ei bod yn amser addas i ni ddewis logo newydd fyddai’n adlewyrchu ein perthynas agos gyda’n partneriaid o fewn y gymuned sydd yn rhannu ein gweledigaeth a’n gobeithion am y cyfnod cyffrous sydd yn ein hwynebu.
Bu i Fenter Iaith Dinbych fabwysiadu’r logo blaenorol yn ôl ym mis Hydref 2003 pan ddaeth Menter Iaith Dinbych-Conwy yn ddau endid ar wahân. Ers hynny mae’r Fenter wedi parhau i dyfu ac esblygu, gan newid ei dulliau o weithio a chyfathrebu i gwrdd â gwahanol ofynion a heriau yr oes.
Mae’r logo newydd yn gwneud defnydd o liwiau Cyngor Sir Ddinbych am eu bod nhw yn eu tro yn adlewyrchu tirwedd yr ardal, gan gynrychioli awyr, môr a chaeau. Rydym hefyd yn ceisio cyfleu’r cysyniad o gyfathrebu â’r gymuned i gyd, Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd, drwy ddefnydd o’r marciau dyfynnu.
Meddai Nerys Davies, Cadeirydd y Fenter: “Mae dulliau cyfathrebu wedi trawsnewid ers sefydliad Menter Sir Ddinbych ym 2003. Mae'r logo newydd yn adlewyrchu pwysigrwydd cyfathrebu gyda partneriaethau amrywiol. Mae hefyd yn dangos rôl ganolog y Fenter o fewn y gymuned. Mae'n symbol cyffrous o ddatblygiad ac esblygiad yn y blynyddoedd diweddar, ac o'r cyfleon cyffrous a ddaw.”
Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i newid “domain” ebost y Fenter i @menterdinbych.org Felly o hyn ymlaen bydd cyfeiriadau e-bost staff y Fenter i gyd yn cynnwys ein henw cyntaf + y cyfeiriad domain newydd ee gill@menterdinbych.org neu gerallt@menterdinbych.org ayb.
Y cyfeiriad cyffredinol newydd ar gyfer ymholiadau fydd: