Mwy o Newyddion
Gwaith i gychwyn ar gynllun hamdden mewn coedwig
Bydd gwaith yn cychwyn yn hwyrach y mis hwn ar brosiect cyffrous i drawsnewid coedwig Niwbwrch yn gyrchfan awyr agored bwysig a allai roi hwb economaidd anferth i Fôn.
Bydd contractwyr yn symud i’r ardal ar 22 Hydref i ddechrau adeiladu llwybrau cerdded, beicio a marchogaeth wrth i gynllun Datblygu Hamdden Niwbwrch gael ei wireddu.
Bydd y meysydd parcio yn cael eu gwella, eu hymestyn a chael eu gwneud yn fwy diogel fel rhan o'r cynllun, bydd llwybr byrddau a llwyfan gwylio yn cael ei godi ar draws y twyni tywod yn ogystal â man gwybodaeth, mannau picnic a barbeciw. Bydd cyfle hefyd i fusnesau gael consesiynau arlwyo, llogi beiciau a merlota.
Bydd y gwaith yn parhau drwy’r hydref a’r gaeaf a bydd yn barod ar gyfer lansiad mawr yn ystod gwyliau'r Pasg 2013.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yna newid i’r mynedfeydd i’r goedwig. Bydd y fynedfa dollau yn cau, a hefyd faes parcio Cwningar a maes parcio trigolion er mwyn gallu gorffen y gwaith yn gyflym ac yn ddiogel.
Meddai’r Rheolwr Prosiect Simon Phillips, “Bydd y traffig adeiladu’n teithio i lawr prif ffordd y goedwig gyferbyn â mynedfa Llyn Parc Mawr felly dylai pawb fod yn hynod o ofalus wrth gerdded neu farchogaeth ar y ffordd hon - bydd mwy o draffig arni nag arfer."
Bydd y meysydd parcio yn Llyn Parc Mawr, Malltraeth a Llyn Rhos Ddu yn dal ar agor fel arfer. Bydd y rhan fwyaf o'r safle, gan gynnwys llwybrau'r goedwig hefyd yn dal ar agor.
Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n rheoli’r goedwig ar ran Llywodraeth Cymru yn gobeithio agor y safle i gyd eto ar gyfer gwyliau'r Nadolig ond bydd yn rhaid ei chau wedyn.
Meddai Simon, “Rydyn ni’n gobeithio gorffen y gwaith ac agor y mynedfeydd rywbryd fis Chwefror a chael agoriad mawreddog yn ystod gwyliau’r Pasg 2013.
“Hoffai Comisiwn Coedwigaeth Cymru ddiolch i ymwelwyr o flaen llaw am eu hamynedd a’u cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at ychydig o fisoedd prysur a chyffrous.”