Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Hydref 2012

Galw am berchenogaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth ym Maes Awyr Caerdydd

Dywedodd Leanne Wood y gallai cyfran gan Lywodraeth Cymru ym Maes Awyr Caerdydd drawsnewid ei ffawd a rhoi hwb sylweddol i’r economi.

Gwnaeth arweinydd Plaid Cymru y sylwadau yn y Senedd yn ystod dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar gysylltedd rhyngwladol rhwng porthladdoedd a meysydd awyr Cymru.

Mae pryderon wedi cynyddu am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd wedi i niferoedd teithwyr ostwng o 118,000 yn hanner cyntaf 2012 o gymharu â’r un cyfnod llynedd. Dangosodd y maes awyr hefyd golled gweithredol o £319,000 yn 2011.

Yn ei haraith, dywedodd Ms Wood y gallai cyfran gan Lywodraeth Cymru ddarparu’r canlynol:

  • Mwy o adnoddau i ddatblygu llwybrau hedfan
  • Caniatáu mwy o ymchwilio i gyd-gyllido er mwyn gwella cyfleusterau
  • Cwsmeriaid busnes newydd a chwmnïau tramor sy’n dod ag arian i mewn i Gymru,
  • Strategaeth tymor-hir yn hytrach nag ateb cyflym i gipio penawdau.

 Wedi rhoi croeso cyffredinol i’r adroddiad, dywedodd Ms Wood ei bod yn synnu nad oedd y pwyllgor wedi edrych yn fanwl ar fater perchenogaeth Maes Awyr Caerdydd.

“Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, preifateiddiwyd y maes awyr ym 1995 a’i brynu gan y perchenogion presennol, Abertis, yn 2005,” meddai Ms Wood.

“Wrth osod ei gynlluniau am dasglu yn ôl ym mis Mai, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda darpar-brynwyr oedd â diddordeb mewn partneriaeth preifat-cyhoeddus i’r maes awyr, gyda Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfran.

“Da o beth fuasai gwybod sut mae’r trafodaethau hyn yn mynd yn eu blaenau.

“Wedi’r cyfan, roedd y tasglu a gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Mehefin i fod i gael ail gyfarfod ym mis Medi, ond mae’n debyg nad ydynt wedi cyfarfod eto.

“Safbwynt Plaid Cymru yw, o fewn rheolau Cymorth y Wladwriaeth, y carem weld cymaint o gefnogaeth ag sydd modd yn cael ei roi i Faes Awyr Caerdydd fel bod y maes awyr yn gweithredu er budd pobl Cymru fel cyfrwng creu swyddi a llwybr at fuddsoddi.

“Wrth gwrs, mae’r rheolau hynny ar Gymorth y Wladwriaeth yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan yr UE, gan ganolbwyntio yn arbennig ar rôl meysydd awyr rhanbarthol mewn twf economaidd, ac yr wyf yn gobeithio fod Llywodraeth Cymru wedi chwarae rôl lawn ac wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Buaswn yn falch o gael copi.

“Prin y buasai cyfranogiad llywodraeth ym mherchenogaeth maes awyr yn unigryw, wedi’r cyfan - Llywodraeth Denmarc sydd biau bron i 40% o Faes Awyr Copenhagen.”

Ychwanegodd: “Mae angen i ni sicrhau fod Maes Awyr Caerdydd yn adlewyrchu’r gorau o Gymru a bod maes awyr gwell yn rhoi hwb i’n heconomi lleol.

“Mae Maes Awyr Caerdydd yn eicon Cymreig, ac y mae gan bobl Cymru ddiddordeb byw yn ei ddyfodol.

“Gŵyr unrhyw un sydd wedi cynrychioli pobl o dde Cymru ein bod eisiau bod a balchder sifig yn y maes awyr a’n bod am iddo fod yn well. Dyw pobl ddim eisiau gorfod mynd i Fryste er mwyn mynd ar wyliau. Mae ymdeimlad yna y dylai Cymru feddu ar faes awyr rhyngwladol am ein bod yn genedl.

“Mae pobl yn rhwystredig iawn ac yn siomedig nad yw’r maes awyr yn perfformio i’w lawn botensial. Ond maent hefyd am ei weld wedi cael ei drawsnewid.

“Gallai cyfran gan y llywodraeth yn y Maes Awyr roi cynrychiolaeth fwy uniongyrchol i bobl Cymru yn y cyfleuster, a fyddai’n help i ddiogelu ei ddyfodol.”

 

Rhannu |