Mwy o Newyddion
Daf a Caryl yn dringo pum copa Cymru i Blant Mewn Angen
Bydd cyflwynwyr rhaglen foreol BBC Radio Cymru, Dafydd Du a Caryl Parry Jones, yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod o ddydd Llun, Hydref 29 - ddydd Gwener, Tachwedd 2 gan godi arian i Plant Mewn Angen yr un pryd.
Caffi Theatr Brycheiniog, Tipple and Tiffin fydd y lleoliad cyntaf, cyn cychwyn dringo copa uchaf de Cymru, Pen y fan ar brynhawn ddydd Llun, Hydref 29. Ar brynhawn ddydd Mawrth, Hydref 30, yr ail fynydd i’w goncro fydd mynydd Carningli yn Sir Benfro. Bydd Daf a Caryl yn darlledu’n fyw o gaffi Beca, Efailwen y bore hwnnw.
Hoe i’r traed mewn bws mini i’r criw wedyn wrth iddyn nhw deithio i’r gogledd ar gyfer darlledu o gaffi TH Roberts, Dolgellau fore Mercher, Tachwedd 1. Yn y prynhawn, Cadair Idris uwch y dre fydd yr her nesaf, sy’n 893 metr.
Copa mynydd Moel Famau yng nghyffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint fydd cyrchfan dydd Iau, Tachwedd 2 a’r her galetaf fydd ola’, wrth iddyn nhw ddarlledu o Y Pantri, Llanberis cyn dringo i fynydd uchaf Cymru, Yr Wyddfa.
Mae Daf yn hen law ar ddringo mynyddoedd Cymru, ond gyda chymaint o gerdded mewn cyn lleied o amser, mae gan y tîm her fawr o’u blaenau.
“Gofynnodd Daf be nawn ni fel her a chyniges i neud rhywbeth ‘dan ni ddim yn ei wneud fel arfer ar y rhaglen hon…symud! A symud rydan ni am ei wneud - symud llawer mwy nag arfer,” meddai Caryl.
“Mae’r tîm i gyd - Daf, finne, Derfel a Sian (Miss Cynhyrchydd) - yn edrych mlaen yn ofnadwy at y dringo, y chwysu, y chwerthin, y crio, y plastars a’r bath poeth ar ddiwedd pob dydd. Ac wrth gwrs, casglu cymaint o bres ag sy’n bosibl ar gyfer Plant Mewn Angen.”
Bydd gwesteion boreol adnabyddus yn y caffi ar bob rhaglen - ac efallai y gwelwn ni ambell un ohonyn nhw yn gwirfoddoli i ymuno yn her y diwrnod. Bydd y dringwyr dewr yn ymuno â rhaglen Nia o 2.30pm bob prynhawn i adrodd ar y diweddaraf o’r llethrau a’r bwriad yw gofyn i wrandawyr adre’ gefogi ymgyrch Plant Mewn Angen eleni drwy decstio ar y diwrnod i noddi’r dringwyr.
Bydd yr arian a godir ar gyfer Plant Mewn Angen y BBC yn mynd i gefnogi rhai o blant a phobl ifanc mwyaf anghenus y DU. Ewch i bbc.co.uk/radiocymru i ddarganfod mwy.