Mwy o Newyddion
Gwobr am frwydro yn erbyn troseddau ym maes bywyd gwyllt
Dyfarnwyd yr ail wobr i’r Rhingyll Rob Taylor o Heddlu Gogledd Cymru yng ngwobrau Gorfodwr Cyfraith Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, a noddir gan WWF, am ei waith caled a’i ymroddiad i fynd i’r afael â throseddau ym maes bywyd gwyllt.
Mae’r Rhingyll Taylor wedi gweithio ar faterion yn ymwneud â throseddau ym maes bywyd gwyllt ers mwy na phedair blynedd. Mae wedi cyflawni canlyniadau gwych, ac yn ystod y 12 mis diwethaf wedi ymdrin ag amrywiaeth o achosion amlwg iawn.
Wrth iddo gael y wobr dywedodd y Rhingyll Taylor: “Mae’n anrhydedd cael y wobr hon am y trydydd tro. Fodd bynnag, nid ymdrech un dyn yw hwn ac felly rwy’n ei derbyn ar ran fy nghydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Maen nhw wedi bod yn bartneriaeth wirioneddol effeithiol wrth ddelio â throseddau ym maes bywyd gwyllt a gwarchod ein hamgylcheddau.”
Cyflwynodd WWF a’r Bartneriaeth Weithredu i Atal Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt (PAW) y wobr yn 24ain Cynhadledd Flynyddol Genedlaethol y Deyrnas Unedig ar Droseddau ym maes Bywyd Gwyllt. Yno mae gorfodwyr, asiantaethau statudol a chyrff anllywodraethol yn ymgasglu i glywed y safbwyntiau, dulliau, llwyddiannau a heriau diweddaraf ym myd brwydro yn erbyn troseddau ym maes bywyd gwyllt yn y Deyrnas Unedig.
Bellach mae’r Rhingyll Taylor yn rheoli tîm o 25 o swyddogion bywyd gwyllt rhanbarthol, sy’n ymdrin ag oddeutu 300 o adroddiadau am droseddau ym maes bywyd gwyllt bob blwyddyn. Mae wedi ymwneud â nifer o achosion amlwg iawn gan gynnwys difrod i gynefinoedd gwarchodedig, erlid adar ysglyfaethus a’r fasnach mewn rhywogaethau sydd mewn perygl.
Dywedodd Heather Sohl, Uwch Swyddog Polisi Rhywogaethau WWF-UK: “Rwyf wrth fy modd bod Rob wedi cael y wobr hon. Mae bob amser yn ysgogi rhywun yn fawr ac yn tawelu ei feddwl i glywed am gyflawniadau anhygoel swyddogion gorfodi cyfraith bywyd gwyllt, sydd wedi rhoi cymaint o amser ac egni i’r gwaith o warchod bywyd gwyllt, yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt i’w ffiniau.
"Mae gwaith Rob, a gwaith y lleill a enwebwyd, yn dangos pa mor hanfodol yw gorfodi cyfraith bywyd gwyllt yn y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn parhau i gael digon o gymorth gan y llywodraeth a’r awdurdodau gorfodi.”
Y Cwnstabl John Baldwin o Heddlu Cumbria a enillodd wobr gyntaf Gorfodwr Cyfraith Bywyd Gwyllt y Flwyddyn ar gyfer 2012, a chafodd yr Uwch-arolygydd Alan Smailes, o Heddlu Grampian yn Aberdeen, Wobr am Gyflawniad Oes.