Mwy o Newyddion
Arweiniad canol y ddinas i fyfyrwyr er mwyn rhoi hwb i fasnach
Mae miloedd o fyfyrwyr newydd yn Abertawe yn dysgu am ganol y ddinas am y tro cyntaf.
Mae hyn yn golygu bod nifer o fyfyrwyr newydd eisoes wedi heidio i ganol y ddinas dros y mis i ddarganfod ei siopau a'i gwasanaethau eraill.
Mae'r arweiniad wedi'i rannu'n gyfres o rannau sy'n canolbwyntio ar agweddau ar ganol y ddinas megis siopau, bywyd nos a mannau adloniant eraill. Mae atyniadau megis yr LC, Theatr y Grand a'r ddwy sinema yng nghanol y ddinas hefyd yn rhan o'r arweiniad.
Mae gan fyfyrwyr gyfle i ennill gwerth £50 o dalebau siopa a chynigion i ymweld ag atyniadau megis Marchnad Abertawe.
Mae'n rhan o Gynllun Gweithredu Canol y Ddinas Cyngor Abertawe sy'n ceisio rhoi help i fasnachwyr canol y ddinas drwy gyfnod economaidd anodd.
Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Mae miloedd o fyfyrwyr newydd yn cyrraedd Abertawe bob hydref, felly mae'n gwneud synnwyr i fynd i ffeiriau'r glas a chynyddu ymwybyddiaeth o ganol y ddinas.
"Mae myfyrwyr yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r economi leol ym Mae Abertawe ac mae angen i ni wneud poeth y gallwn i'w hannog i ddod i ganol y ddinas lle gallent ddarganfod amrywiaeth o siopau gwych a gwasanaethau eraill.
"Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod rydym ynddo ar hyn o bryd oherwydd y dirwasgiad a'r gystadleuaeth frwd mae ein masnachwyr yn ei hwynebu gan barciau masnach ar gyrion y dref a siopa dros y rhyngrwyd.
"Dengys adborth hyd yn hyn bod yr arweiniad i fyfyrwyr yn gweithio a bod llawer o'r myfyrwyr newydd yn dwlu ar y farchnad dan do hanesyddol."
Cynhelir mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau bellach ar safleoedd y brifysgol dros y misoedd nesaf i gynnal a chadw proffil canol y ddinas.
Dosbarthu'r arweiniad yw'r fenter ddiweddaraf a anelir at annog pobl i ddod i ganol y ddinas a rhoi hwb i fasnach.
Mae'n dilyn cynlluniau megis Cerdyn Ffyddlondeb Canol y Ddinas a'r parcio rhad mewn dau faes parcio ar nos Iau i helpu i gefnogi siopa gyda'r hwyr.
Mae'r arweiniad i fyfyrwyr wedi'i uwchlwytho ar http://www.swanseacitycentre.com ac anogir myfyrwyr i ddilyn canol y ddinas ar Facebook a Twitter i weld manylion digwyddiadau a hyrwyddiadau y dyfodol.
Cynhaliwyd dros 40 o ddigwyddiadau eisoes yng nghanol y ddinas eleni, gan gynnwys G?yl Gludiant Abertawe a Fflamau'r Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd.