Mwy o Newyddion
Yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn gwahodd ymgeiswyr
Mae'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn galw ar wneuthurwyr ffilm a rhaglenni a chynhyrchwyr yn y cyfryngau digidol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer gwobrau Torc Efydd anrhydeddus yr ŵyl. Mae'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn dathlu ieithoedd a diwylliannau unigryw'r gwledydd a'r rhanbarthau Celtaidd ar y sgrin ac yn y byd darlledu, ac mae'r gwobrau yn anrhydeddu rhagoriaeth ym myd ffilmiau, teledu, radio a chyfryngau digidol. Mae'r enillwyr yn cael eu dewis gan reithgor rhyngwladol ac yn cael eu cyhoeddi yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, sy'n cael ei chynnal yn Abertawe rhwng y 24ain a'r 26ain o Ebrill.
Bydd cyfanswm o 21 gwobr Torc Efydd yn cael eu cyflwyno yn yr ŵyl y flwyddyn nesa', yn cynnwys tair gwobr newydd ar gyfer 2013. Bydd yr ŵyl yn anrhydeddu rôl bwysig technoleg ddigidol i hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau Celtaidd ac am y tro cyntaf bydd gwobr i'r App Gorau a bydd podlediadau yn cael eu derbyn yn y categori Radio. Mae dwy wobr newydd wedi eu hychwanegu i'r categori Radio/Podlediad - sef Rhaglen Gerddoriaeth a Chwaraeon Radio, ac ymhlith y categorïau eraill mae Dogfen/Ffeithiol a Drama. Bydd yr ŵyl hefyd yn cyflwyno Torc Aur i enillydd Gwobr Ysbryd yr Ŵyl - i'r ffilm neu raglen deledu sydd wedi ei ffilmio yn gyfan gwbl, neu'n sylweddol, mewn iaith Geltaidd ac yn crynhoi ysbryd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Mae rhestr lawn o'r gwobrau ar gael ar www.celticmediafestival.co.uk
Dywedodd Dhomhnall Caimbeul, Cadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd: "Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi dau gategori radio newydd fel rhan o ymrwymiad yr Ŵyl i'r cyfrwng radio. Hoffwn ddiolch i'r sector am yr adborth a dderbyniwyd yn ystod ein cyfnod ymgynghori. Roedd y sylwadau yn werthfawr iawn wrth i ni sicrhau bod yr Ŵyl yn Abertawe yn ddigwyddiad llawer cyfoethocach ar gyfer dathlu gwaith radio.
"Mae'r categori newydd ar gyfer Apps yn ddatblygiad cyffrous. Mae'r wobr yn canolbwyntio ar apps sydd mewn, neu ar gyfer dysgu, iaith Geltaidd. 'Rwy'n siŵr y bydd yn ysgogi llawer o ddiddordeb ac yn meithrin cydweithio ar draws y gwledydd a'r rhanbarthau Celtaidd y tu hwnt i gyfryngau darlledu.
"'Rydym yn hynod falch o ddod â Gŵyl Cyfryngau Celtaidd gref i Abertawe'r flwyddyn nesaf. Mae llawer o dalent i'w dathlu ac rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y gwobrau hyn."
Mae'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2013 yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Marriott Abertawe yn ogystal â lleoliadau celfyddydol amrywiol o amgylch y ddinas rhwng y 24ain a'r 26ain o Ebrill, a bydd yn arddangos y gwaith gorau o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Cernyw a Llydaw. Ymhlith gwesteion anrhydeddus y gorffennol mae'r actorion Tilda Swinton, Rhys Ifans a Peter Mullan, y cynhyrchwr ffilm Ken Loach, sgriptiwr Jimmy McGovern a chynhyrchydd Doctor Who a Torchwood, Russell T Davies. Er bod yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn bennaf ar gyfer pobl o fewn y diwydiant, bydd rhaglen ehangach o ddangosiadau lleol, arddangosfeydd, adloniant min nos a chyfweliadau gydag enwogion ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr a seminarau ar gyfer myfyrwyr lleol. Bydd rhaglen lawn yr ŵyl, ynghyd â manylion am sut i gofrestru a sut i brynu tocynnau yn cael eu cyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Gellir cyflwyno cais am wobr nawr gyda'r dyddiad cau am 5pm ar ddydd Mawrth 30ain o Hydref. Mae gwybodaeth lawn a chategorïau’r gwobrau ar gael ar wefan www.celticmediafestival.co.uk