Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Hydref 2012
Karen Owen

Teyrnged i Emyr Williams

Ddydd Sadwrn diwethaf (Medi 29) bu farw Emyr Williams - newyddiadurwr, ymgyrchydd a chefnogwr eisteddfodau bychain. 

Roedd yn 81 mlwydd oed ac wedi bod yn ymladd clefyd Parkinson ers rhai blynyddoedd.

Er hynny, doedd ei ddiddordeb mewn materion cyfoes a newyddion wedi pylu dim. Y tro olaf i mi ei weld, ar ei ymweliadau bob-pnawn-Iau a chaffi Jenny's ger Y Ganolfan ym Mhorthmadog, roedd o'n holi pa storis oedd gen i ar y gweill.

"Pwy wyt ti'n ypsetio yr wythnos yma?" meddai, gan grychu'i drwyn a chwerthin efo'i lygaid.

"Dal di ati," meddai wedyn, "paid a gadael iddyn nhw feddwl dy fod di wedi gollwng gafael."

Doedd Emyr Williams erioed wedi gollwng gafael - hyd yn oed yn ei flynyddoedd olaf. Roedd yn cyfrannu colofnau ar hanes Porthmadog a'r ardal i bapur bro Yr Wylan a phapurau lleol eraill bron iawn tan y diwedd. Ac roedd yr hanes hwnnw'n bwysig iawn iddo.

Roedd yn aelod o'r pwyllgor a sefydlodd - ac a achubodd - Y Ganolfan ym Mhorthmadog, ac roedd yr un mor benderfynol, yn ei wendid, tros achub sinema'r Coliseum yn y dref.

Bob dydd yn y Daily Post am 35 mlynedd, ac yn y Cambrian News cyn hynny, fe fu'n adrodd ar hanesion o bob math - o achosion llys, damweiniau, eisteddfodau, sioeau, ffraeo, protestiadau, streiciau a dadleuon gwleidyddol.

Fel ysgrifennwr, roedd ganddo steil stret a diduedd, lle'r oedd y ffeithiau'n cael siarad drostynt eu hunain. Nid Emyr Williams oedd y stori byth - dim ond ei dweud hi gystal ag y gallai yr oedd o.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |