Mwy o Newyddion
Gwarth neu glefyd?
BYDD dydd Sul 7 Hydref yn garreg filltir yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau eraill yng Nghymru.
Dyma Sul Adferiad cyntaf Cymru, pan fydd Cristnogion Cymru yn uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth – yn gofyn i Dduw ein helpu i’w helpu nhw.
‘Gwarth neu glefyd?’ yw thema’r Sul Adferiad cyntaf hwn, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill mewn ymdrech i herio’r stigma a’r rhagfarn sy’n dal i fodoli tuag at bobl gyda phroblemau salwch meddwl a dibyniaeth.
Meddai Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr y Cyngor: “‘Gwarth neu glefyd?’ ydi’r cwestiwn fyddwn ni’n ei holi ar Sul Adferiad. Mae’n hen bryd herio’r syniad fod dibyniaeth yn rhywbeth gwarthus, rhywbeth i’w guddio. Hyd yn oed mewn bywyd eglwys, mae pobl a theuluoedd yn brwydro yn erbyn dibyniaeth.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA