Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Hydref 2012
Karen Owen

Nant Gwrtheyrn yn dathlu pen-blwydd yn 30 oed

DAETH llu o gyfeillion Nant Gwrtheyrn at ei gilydd ddydd Sul, 30 Medi, i ddathlu pen-blwydd y Nant fel Canolfan Iaith yn 30 oed. Arweiniwyd yr achlysur gan Edward Morus Jones, Ynys Môn, sydd wedi bod yn un o selogion y Nant ers cychwyn y Ganolfan.

Ymysg y siaradwyr roedd Sylfaenydd y Nant, y Dr Carl Clowes; tiwtor cyntaf y Nant, Merfyn Morgan; ac un o’r myfyrwyr cyntaf, Margaret Eaglestone. Cynrychiolwyd dysgwyr presennol y Nant gan David Melding, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd clywed cyn-ddysgwraig a dysgwr cyfredol, yn parablu’n hyderus yn y Gymraeg yn talinellu llwyddiant y Nant dros y 30 mlynedd diwethaf.

Torrwyd cacen arbennig gan ddwy o’r dysgwyr cyntaf, sef Margaret Eaglestone ac Edna Wood. Dadorchuddiwyd a chyflwynwyd llun newydd gan yr artist Roy Guy o Rhys a Meinir ar ffurf mosaic.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Llun: Margaret Eaglestone ac Edna Wood

Rhannu |