Mwy o Newyddion
Dadorchuddio plac ysgol
Ar ei ddiwrnod olaf fel Cofiadur Llys y Goron, Caernarfon, roedd un o feibion y dref, Winston Roddick, QC CB, yn dadorchuddio plac yn y llys hwnnw brynhawn Gwener diwethaf (Medi 28) - ddiwrnod cyn iddo ymddeol. Mae'r plac yn cofnodi fod Llys y Goron newydd Caernarfon (agorwyd Mai 2009) wedi ei godi ar safle Ysgol Safonol Uwch Caernarfon, neu Ysgol Segontiwm fel y gelwid yn lleol. Syniad Cymdeithas Ddinesig Caernarfon oedd cael y plac.
“Roedd Ysgol Segontiwm yn rhan bwysig iawn yn darparu addysg uwchradd yng Nghaernarfon a’r cylch,” meddai'r Cynghorydd Hywel Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas Ddinesig. “Agorwyd yr ysgol yn 1912 ac mae’n addas iawn ein bod yn coffhau ei bodolaeth gan mlynedd yn ddiweddarach. Mae nifer o’r cyn-ddisgyblion wedi mynd ymlaen i yrfaoedd disglair ac un o’r rhain ydi Winston Roddick.
“Ar ôl gadael Ysgol Segontium, ymunodd Winston â’r heddlu yn Lerpwl ac yno datblygodd ddiddordeb pellach yn y gyfraith. Aeth ymlaen i wneud gradd yn y gyfraith ac fe ddaeth yn Fargyfreithiwr yn Greys Inn yn 1968 ac yna ei benodi’n Gofiadur Llys y Goron yn 1986. Cafodd yrfa ddisglair yn cyflawni nifer o swyddi pwysig gan gynnwys y Cwnsler Cyffredinol cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1998 ac yna yn Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer yn 2007.
Daeth hefyd yn Gofiadur Anrhydeddus cyntaf Tref Frenhinol Caernarfon yn 2001 - swydd arall yr oedd yn ymddeol ohoni ddydd Gwener diwethaf.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA