Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Sgiliau a phrentisiaethau yn allweddol i’r dyfodol

Bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Jeff Cuthbert AC yn cyfarch Cyfarfod Blynyddol Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) eleni. Bydd yn siarad am bwysigrwydd prentisiaethau a hyfforddiant mewn cyfnod sy’n llwm i’r economi. Ar hyn o bryd, mae’r Gweinidog yn cyfarfod cyflogwyr ar draws Cymru i glywed am eu profiadau nhw o raglenni prentisiaeth ac i ddeall sut all Llywodraeth Cymru helpu i wella cyfleon prentisiaeth i bobl ifanc.

Sefydlwyd CCG yn 2010, ers hynny rydym wedi canolbwyntio llawer ar ein rhaglen welliannau gwerth £136 miliwn i ddod â’r cartrefi i fyny at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae chwedeg hyfforddai wedi eu cyflogi gan contractwyr a CCG yn uniongyrchol ar draws y rhaglen SATC mewn swyddi yn amrywio o swyddogion gweinyddol, i osodwyr ffenestri, plastrwyr a seiri.

Ers y cychwyn mae CCG wedi ymrwymo i sicrhau fod buddsoddiad SATC nid yn unig o fudd i denantiaid ond hefyd yn rhoi hwb i’r farchnad swyddi a chyfleon prentisiaeth lleol. Mae menter Recriwtio a Hyfforddiant wedi ei Dargedu CCG yn nodi fod yn rhaid i bob contractwr sy’n gweithio ar raglen SATC sicrhau fod cyfran o’u staff yn hyfforddai neu yn brentisiaid.
 

Mae gweithio’n agos â Choleg Menai wedi sicrhau fod prentisiaid yn dysgu yn y dosbarth ac yn derbyn hyfforddiant ar safle yng Ngwynedd. Mae tri deg un prentis yn gwneud cwrs NVQ Lefel 2 neu 3 gyda’r coleg addysg bellach yn ogystal â nifer o staff CCG yn mynychu amrywiaeth o gyrsiau drwy gynllun Dyfodol y coleg.

Dywedodd Dirprwy Weinidog ar Sgiliau, Jeff Cuthbert: “Mae’n bleser gweld Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn buddsoddi yn ei staff ac yn creu cyfleon prentisiaeth.  Mae’n hanfodol bod busnesau a chwmnïau yn parhau i fuddsoddi yn eu gweithlu, yn enwedig mewn amser mor anodd i’r economi. Gall prentisiaid fod yn asgwrn cefn i weithlu ffyddlon ac ysgogol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda, ac i gefnogi cwmnïau sydd eisiau creu prentisiaethau a buddsoddi mewn gwella sgiliau eu staff."

Ychwanegodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr CCG: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’r contractwyr a darparwyr hyfforddiant lleol i sicrhau fod prentisiaid lleol yn cael eu cyflogi a’u bod yn dysgu’r sgiliau maent eu hangen. Wrth i ni fuddsoddi i wella cartrefi ein tenantiaid mae hefyd yn bwysig i ni wella sgiliau a chreu cyfleon cyflogaeth lleol mewn cyfnod lle mae wir ei angen. Mae’n bwysig i ni ein bod yn gwneud gwahaniaeth.”

Mae Ian Angel, 19 o Waunfawr yn brentis plymiwr gyda Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Dywedodd: “Roeddwn yn Coleg Menai yn gwneud cwrs plymio, ac er fy mod wedi bod yn gwneud profiad gwaith gyda chwmni mawr, nid oedd yn bosib iddynt gynnig prentisiaeth i mi.  Ond yn ffodus cefais gynnig y cyfle yma hefo CCG oedd yn wych i mi gan eu bod yn gwmni lleol ac y byddwn yn gweithio mewn cartrefi lleol.

“Dwi’n hapus fy mod wedi cael swydd prentis pan mae cymaint yn ei chael hi’n anodd cael gwaith a gobeithio y byddaf yn gallu aros hefo CCG ar ôl i mi orffen y prentisiaeth.”

 

Rhannu |