Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Cynlluniau newydd ar gyfer penodiadau barnwrol yn rhoi llai o lais i Gymru

Mae Theodore Huckle CF, Cwnsler Cyffredinol Cymru, wedi rhybuddio y gallai dileu cynrychiolaeth barhaol Cymru ar y Comisiwn Penodiadau Barnwrol arwain at farnwriaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar Loegr nag erioed.

Mewn llythyr at Chris Grayling AS, Ysgrifennydd Cyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor newydd y DU, dywedodd Mr Huckle ei fod yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu’r gofyniad cyfreithiol fod Cymru yn cael ei chynrychioli bob amser yn y broses o wneud penodiadau barnwrol.

Mae dileu’r gofyniad hwn yn rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i leihau cylch gorchwyl y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a chael llai o Gomisiynwyr arno.  Yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yw’r Comisiynydd o Gymru ar hyn o bryd. 

Dywedodd Mr Huckle fod Llywodraeth Cymru o’r farn fod y cynigion sy’n cael eu hargymell fel rhan o’r Bil Trosedd a’r Llysoedd - sydd gerbron Llywodraeth y DU ar hyn o bryd - yn gam yn ôl o’r diwygiadau blaenorol i sicrhau annibyniaeth y farnwriaeth yn sgil Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005.

Dywedodd Mr Huckle: “Gan fod gennym bellach ddeddfwrfa ar wahân sydd â phwerau deddfu sylfaenol, ac yn sgil ein statws fel cenedl ddatganoledig, mae’n hollbwysig fod rhywun yn cynrychioli buddiannau Cymru yn y broses benodi.

“Gofynnaf ichi ailystyried a yw’n briodol fod gan yr Arglwydd Ganghellor ddisgresiwn o ran cynrychioli buddiannau Cymru ar y Comisiwn, ac a ddylid israddio’r gofyniad pwysig hwn i is-ddeddfwriaeth.”

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei fod o blaid y cynnig i ddileu rhai o swyddogaethau’r Arglwydd Ganghellor ym maes penodiadau barnwrol. Er hynny, mae’n poeni am y cynnig bod yr Arglwydd Ganghellor yn cyfrannu at y broses o ddethol yr uwch farnwriaeth.

Ychwanegodd Mr Huckle: “Rydyn ni o’r farn y bydd ychwanegu at rôl yr Arglwydd Ganghellor o ran penodi’r uwch farnwriaeth, yr Arglwydd Brif Ustus a Llywydd y Goruchaf Lys yn rhoi gormod o ddylanwad i’r weithrediaeth.

“Gyda golwg ar effaith y cynigion ar Gymru, rydyn ni’n bryderus y bydd cynyddu dylanwad Llywodraeth y DU yn golygu bod y farnwriaeth yn magu gwreiddiau dyfnach nag erioed yn Lloegr. Cam tuag at farnwriaeth fwy amrywiol, gan gynnwys cydnabod “barnwriaeth Gymreig” sy’n cynrychioli Cymru a buddiannau Cymru, yw’r hyn yr hoffem ni ei weld.” 

Llun: Theodore Huckle CF

Rhannu |