Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Grantiau gwerth £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i wneud y Fro yn fwy diogel

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi agor  Canolfan Gymorth Gymunedol yn y Barri yn swyddogol. Cafodd y ganolfan ei hadnewyddu wedi i Lywodraeth Cymru roi grantiau gwerth £1.3 miliwn i’r ganolfan.

Partneriaeth Bro Ddiogelach sy’n gyfrifol am y ganolfan yn Cadoxton House sy’n integreiddio nifer o wasanaethau o dan yr un to. Y bwriad yw cefnogi pobl sy’n dioddef yn sgil camddefnyddio alcohol a cham-drin domestig. Ynghyd â’r cyfleusterau gwell, mae’r ganolfan gymorth gymunedol yn gyrchfan i gael gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â cham-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau.

Dywedodd Carl Sargeant: “Rydw i’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi £1.3 miliwn i adnewyddu’r adeilad hwn drwy ddefnyddio’r cyllidebau sydd wedi’u pennu ar gyfer Cam-drin Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau. Mae hyn yn dangos fy mod wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sy’n dioddef yn cael cefnogaeth yma ym Mro Morgannwg a ledled Cymru, a hynny hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwn o gyni economaidd.

"Mae’r adnodd amlasiantaethol hwn yn galluogi pobl sy’n dioddef yn sgil Trais  yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau i siarad â phobl broffesiynol mewn amgylchedd diogel a chyfforddus sydd hefyd yn addas i drafod materion cyfrinachol.

“Un o brif amcanion Llywodraeth Cymru yw sicrhau cymunedau mwy diogel i bawb. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau a lleihau nifer yr achosion o Drais yn erbyn Menywod a nifer yr achosion o Gam-drin Domestig.

“Cyhoeddodd y Rhaglen Lywodraethu ein bwriad i gyflwyno Bil i fynd i’r afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig. Bydd y Bil yn cyfuno ein gwaith, yn sicrhau bod y cyrff cyhoeddus perthnasol yn cydgysylltu ac yn cydlynu’r gwaith er mwyn mynd i’r afael ag agweddau ar yr agenda hon sy’n ataliol, amddiffynol ac yn gefnogol.”

Llun: Carl Sargeant

 

Rhannu |