Mwy o Newyddion
Plaid Cymru: Strwythur arholiadau ar wahân addas i fyfyrwyr Cymru
Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ei gweledigaeth am system arholi annibynnol i Gymru, a fuasai yn cyflawni anghenion myfyrwyr Cymru. Mae’r blaid wedi amlinellu ei gweledigaeth am farchnad symlach o fyrddau arholi, ac asesiadau sydd yn gywir ond yn deg.
Mae’r Gweinidog Addysg Cysgodol, Simon Thomas hefyd wedi mynegi pryderon am ymwneud y Gweinidog Addysg yn y system arholiadau, gan amlinellu gweledigaeth Plaid Cymru am strwythur mwy annibynnol.
Cododd gwestiynau hefyd am ymwneud y Gweinidog Addysg yn y ffrae ynghylch papur arholiad Saesneg TGAU eleni, wedi i ddogfen awgrymu i’r Gweinidog fethu â chyfaddef ei fod yn ymwybodol o’r anghyfiawnder fyddai’n wynebu myfyrwyr Cymreig.
Meddai’r Gweinidog Addysg Cysgodol, Simon Thomas: “Fel Plaid Cymru fe fuasem ni yn cyflwyno system arholi gadarn ond teg i fyfyrwyr Cymru. Yn dilyn sefydlu’r bac Seisnig, mae system gymwysterau ar wahân i Gymru eisoes yn bod.
"Ond i Gymru, byddai Plaid Cymru yn cyflwyno system arholiadau sy’n cadw agweddau gorau’r system TGAU, sydd yn asesiad cywir o gyrhaeddiad myfyrwyr, ac, yn bwysig iawn, y mae gan y sector addysg a chyflogwyr hyder ynddi.
“Buasai Plaid Cymru yn gofalu na fyddai ymyrraeth wleidyddol yng nghanlyniadau arholiadau. Yn hytrach, buasem yn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol i oruchwylio canlyniadau arholiadau, a hynny hyd braich o’r llywodraeth.
"Nid yw Plaid Cymru yn credu mai gweinidogion y llywodraeth sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau pwysig am asesu myfyrwyr Cymru, ac oherwydd hynny rwyf wedi gofyn Gweinidog Addysg fod yn onest a chyfaddef ei fod yn ymwybodol o’r anghyfiawnder oedd yn wynebu myfyrwyr Cymru yr haf hwn, ac iddo fethu gwneud dim yn ei gylch.
“Fel plaid, buom yn ymgyrchu ers tro byd am ostyngiad yn nifer y byrddau arholi. Mae agwedd y farchnad tuag at addysg wedi methu, a bydd Plaid Cymru yn cyflwyno eu cynlluniau am system arholiadau sydd yn addas i wasanaethu anghenion myfyrwyr Cymru.”