Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Deiseb Cartref Gofal Brooklands yn cyrraedd y Senedd

Fe wnaeth Aelodau Cynulliad Plaid Cymru gyfarfod ag ymgyrchwyr o Sir Benfro sydd yn pryderu am y bwriad i osod canolfan ailgylchu wrth ochr Cartref Gofal Brooklands yn Saundersfoot.

Fe wnaeth ACa’u Plaid Cymru, Simon Thomas a Bethan Jenkins, gyfarfod yr ymgyrchwyr wrth iddynt gyflwyno deiseb yn y Senedd.

Meddai AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas: “Mae 40 o bobl yn byw yn y cartref nad ydynt yn gallu siarad drostyn nhw eu hunain. Mae wedi ei amcangyfrif y bydd 300 o deithiau ceir bob dydd o dan y cynllun.

"Bydd y sŵn yn atal preswylwyr rhag defnyddio gerddi tawel y cartref. Rwy’n argymell nad yw Cynghorwyr Sir Benfro yn parhau gyda’r cais cynllunio hwn.”

Ychwanegodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru, sydd yn eistedd ar bwyllgor Deisebau'r Cynulliad: “Hoffwn ddiolch i bawb am ddod i’r Senedd i gyflwyno’r ddeiseb. Mae’r broses hon i fod i roi llais i bobl a rhoi sylw i faterion sydd yn destun pryder i’r cyhoedd.”

 

Rhannu |