Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Her 100 cerdd

Tîm y Glêr gipiodd y fuddugoliaeth yn erbyn tîm Y Tir Mawr yn ffeinal clos rhaglen Talwrn y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012. Ond ar 4 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth bydd sialens arall yn wynebu’r pedwar bardd.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn herio tîm Y Glêr i gyfansoddi 100 o gerddi newydd sbon, a hynny mewn 24 awr yn unig. Does dim rheolau - gall y cerddi fod yn rhai caeth neu yn rhydd,  yn rhai hir neu’n rhai byr, a bydd y beirdd yn ymgymryd â’r her o bob cwr o’r wlad  - un yng Nghaerdydd, un yng Nghaernarfon a dau yng Ngheredigion.

Rhwng Eisteddfod yr Urdd 2007 ac Eisteddfod yr Urdd 2008 cyfansoddodd Iwan Rhys, Prifardd yr Urdd 2001 a 2008, englyn bob dydd, a’u cyhoeddi mewn cyfrol o’r enw Eleni Mewn Englynion (Gwasg Carreg Gwalch). Ond tybed a fydd yn gallu cyfansoddi englyn pob awr?

Prifardd yr Urdd 2006 Eurig Salisbury yw Bardd Plant Cymru 2011-2013, ond gobeithio nad yw’n credu mai chwarae plant fydd yr her hon.

Osian Rhys Jones yw un o sefydlwyr noson farddol boblogaidd Bragdy’r Beirdd a gaiff ei chynnal yng Nghaerdydd, ond bydd yn rhaid iddo wneud yn siŵr fod ganddo ben clir fel cloch i aros ar ei draed am 24 awr.

Yn Brifardd ar ôl cipio coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch yn 2008, enillodd Hywel Griffiths wobr Tir na n-Og 2011 am ei nofel i blant, Dirgelwch y Bont (Gwasg Gomer), ac mae’n dipyn o ddirgelwch sut y mae’n bwriadu cwblhau’r Her Cant o Gerddi.

Mewn ymateb i’r her, meddai Osian Rhys Jones: “Fel tîm buddugol Talwrn y Beirdd BBC Cymru eleni, mae’n bleser gennym ni dderbyn yr her o gyfansoddi 100 cerdd mewn 24 awr. Rydym ni fel Y Glêr, dros nifer o flynyddoedd, wedi hen arfer â sialensiau talyrnau ac ymrysonau sy’n gofyn am dasgau byrfyfyr; ond bydd yr her hon yn gosod y nod yn uwch eto. Does yr un ohonom wedi ceisio cynnal un cyfnod o greadigrwydd am gyfnod mor hir cyn hyn, felly bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd y canlyniadau.”

Bydd yr her yn cychwyn am hanner nos, yn union ar ôl i’r calendr droi’n 4ydd Hydref, ac yn gorffen am hanner nos y noson ganlynol. Darllenwch y cerddi wrth iddynt gael eu postio fesul un, boed mewn ysgrifen, fideo neu glip llais, drwy gydol y diwrnod ar www.her100ogerddi.co.uk

Ond mae angen help y cyhoedd ar Y Glêr - ymunwch yn yr her drwy awgrymu testunau a themâu, neu drwy yrru geiriau o anogaeth drwy drydar @LlenCymru a defnyddio’r hashtag hanfodol #Her100Cerdd neu drwy gysylltu â ni dros Facebook (LlenCymruLitWales), neu drwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pennawd ‘Her 100 Cerdd’.

 

Rhannu |