Mwy o Newyddion
Arolwg Cenedlaethol Cymru yn datgelu pa mor fodlon yw pobl yng Nghymru
Mae pobl yng Nghymru yn fodlon iawn ar feddygfeydd meddygon teulu, ysbytai ac ysgolion, ond yn dal i bryderu am eu sefyllfa ariannol. Dyna a gafodd ei ddatgelu gan ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru heddiw.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth gadarn a manwl am farn a phrofiadau pobl ar hyd a lled Cymru ar ystod eang o bynciau – gan gynnwys lles a pha mor fodlon yw pobl ar wasanaethau cyhoeddus. Mae’r arolwg, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2012, yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb â thua 14,500 o bobl y flwyddyn. Mae’r set gyntaf o ganlyniadau wedi’i seilio ar gyfweliadau â 3,500 o bobl 16 oed ac yn hŷn.
Mae’r arolwg yn datgelu barn gyffredinol pobl am systemau trafnidiaeth, iechyd ac addysg – lle bo dim yn cyfleu ‘yn wael iawn’, a deg yn cyfleu ‘yn dda iawn’. Cafwyd sgôr gyfartalog o 6.5 ar gyfer y system iechyd, sgôr o 6.5 ar gyfer y system addysg, a sgôr o 6.1 ar gyfer y system drafnidiaeth.
Gofynnwyd i bobl roi sgôr ar ba mor fodlon ydynt ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith hefyd. Y sgôr gyfartalog a roddwyd oedd 5.8. Roedd pobl o dan 25 oed yn fwy bodlon ar gynnydd Llywodraeth Cymru, gan roi sgôr gyfartalog o 6.3, tra rhoddodd pobl dros 25 oed sgôr gyfartalog o 5.7.
Pan ofynnwyd iddynt am eu gallu i dalu biliau ac ymdopi â’u hymrwymiadau ariannol eraill, dywedodd 48 y cant o bobl eu bod yn gallu ymdopi, sef saith pwynt canrannol yn llai na 2009-10.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Mae’n bwysig ein bod ni’n casglu barn pobl Cymru, nid yn unig fel mesur o ba mor dda yr ydym yn ei wneud mewn perthynas â chyflawni ar ran pobl Cymru, ond hefyd er mwyn cael deall yn well y pryderon sydd gan bobl am bynciau fel y gwasanaethau y maent yn eu derbyn, ac am eu hamgylchedd lleol.
“Mae’n dda gwybod bod y canlyniadau’n dangos bod pobl yn fodlon iawn ar wasanaethau meddygon teulu ac ysgolion.
“Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod ein penderfyniadau a’n camau gweithredu yn ystyried barn pobl ar hyd a lled Cymru. Dim ond trwy ofyn i bobl y gallwn gael adlewyrchiad cywir o lefel eu bodlonrwydd. A dim ond trwy wrando ar bobl Cymru mewn modd agored a manwl y gallwn ymdrin â’r materion sy’n peri’r pryder mwyaf i bobl Cymru.”
Mae rhai o’r canlyniadau, sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, yn dangos bod 92 y cant o bobl yn fodlon ar y gofal iechyd y maent wedi’i dderbyn gan eu meddyg teulu y tro diwethaf iddynt fynd i’w meddygfa. Roedd yr un gyfran o bobl yn fodlon ar y gofal a gawsant y tro diwethaf iddynt gael apwyntiad yn un o ysbytai’r GIG. Ar y cyfan, roedd 69 y cant wedi datgan eu bod wedi ei chael hi’n hawdd ac yn gyfleus i gael apwyntiad gyda’u meddyg teulu.
O ran pwnc ysgolion, roedd 91 y cant o rieni’n fodlon ar ysgol gynradd eu plant, ac 88 y cant yn fodlon ar ysgol uwchradd eu plant.
Dywedodd cyfanswm o 57 y cant o bobl fod eu hawdurdod lleol yn cynnig gwasanaethau o ansawdd uchel, a 44 y cant o bobl yn dweud yr hoffent gael mwy o ran wrth wneud penderfyniadau am bethau sy’n effeithio ar eu hardal leol.
O ran lles, cytunodd 73 y cant o bobl fod pobl yn eu hardal leol yn trin ei gilydd yn barchus ac yn ystyriol; ac roedd cyfran debyg yn cytuno bod “pobl yn y gymdogaeth hon yn barod i helpu eu cymdogion”.
Rhoddwyd sgôr isel neu isel iawn gan 40 y cant o bobl ar gyfer “bod yn fodlon ar eich sefyllfa ariannol”. Roedd oedolion ifanc 16 i 24 oed yn fwy tebygol o roi sgôr isel neu isel iawn (52 y cant) o’u cymharu â’r rhai hynny oedd yn 65 oed ac yn hŷn (23 y cant).
Ac mewn byd sy’n mynd yn fwy digidol bob dydd, roedd gan 70 y cant o aelwydydd fynediad i’r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu bod gan 77 y cant o bobl sy’n 18 oed ac yn hŷn fynediad i’r rhyngrwyd. Nid oedd gan bedwar o bob 10 aelwyd yn yr ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru fynediad i’r rhyngrwyd.