Mwy o Newyddion
‘Dwi’n dy wahodd’ medd capelwyr ar Sul Croeso Nôl
Mae capelwyr Cymru yn gwahodd eu ffrindiau a’u teuluoedd i ddod gyda nhw i’r capel y Sul hwn a thros yr wythnosau nesaf.
Mae llawer o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cymryd rhan yn ‘Sul Croeso Nôl’, lle mae Cristnogion yn gwahodd rhywun maent yn ei adnabod i ddod gyda nhw i’r oedfa ar y Sul arbennig hwn, 30 Medi. Bydd eglwysi yn canolbwyntio ar estyn croeso arbennig i newydd-ddyfodiaid llwyr ac i bobl sydd wedi stopio dod i’r capel am ryw reswm neu’i gilydd.
Dywedodd Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y Parchedig Dafydd Andrew Jones: "Er fod ein heglwysi yn agor eu drysau i ymwelwyr a newydd-ddyfodiaid bob Sul, mae’n bwysig cael Sul arbennig lle ‘rydym yn canolbwyntio ar wahodd pobl o’n cymuniedau a’u croesawu i’r capel. Bellach, mae gan lawer o’n capeli aelodau ffyddlon a ddaeth am y tro cyntaf ar Sul Croeso Nôl, felly mae’n gyffrous gallu cynnig cyfle i bob ddod i adnabod Duw eto yn 2012.
"Mae gan lawer o bobl yn chwilfrydedd ynglŷn â’r eglwys a’r ffydd, ac mae Sul Croeso Nôl yn ffordd o sicrhau cyfiawnder i’r bobl sydd eisiau ac yn aros am wahoddiad i ddod i’r eglwys. Mae’n dda gweld cynifer o’n heglwysi yn cymryd rhan yn Sul Croeso Nôl ac yn trefnu digwyddiadau arbennig o groeso."
Mae eglwysi led-led y DU a’r byd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch efengylu hon, gan gynnwys Eglwys Loegr, Eglwysi Ynghyd yn yr Alban, eglwysi Methodistaidd a Diwygiedig Unedig ar draws y DU ac eglwysi Anglicanaidd yn Awstralia, yr Ariannin, Seland Newydd a Chanada.
Dechreuodd Sul Croeso Nôl ym Manceinion yn 2004, gan ledu i esgobaethau eraill ac yna i eglwysi ac enwadau eraill. Yn 2011, fe wnaeth 4,200 o eglwysi y DU gymryd rhan, ac amcangyfrifir fod 77,000 o bobl ychwanegol wedi mynychu eglwys ar Sul Croeso Nôl.
Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru tua 27,000 o aelodau mewn 650 o eglwysi, yn ogystal â chysylltiadau ag eglwysi dramor. Ei hamcan yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.