Mwy o Newyddion
Rhieni dros Addysg Gymraeg yn dathlu pen-blwydd yn 60 oed
Yr wythnos nesaf bydd plant a rhieni’n llenwi Adeilad Pierhead, Caerdydd i ddathlu 60 mlwyddiant sefydlu Rhieni dros Addysg Gymraeg.
Bydd RhAG yn cynnal y dathliad ddydd Mercher 3 Hydref. Caiff llyfryn ei gyhoeddi i nodi’r achlysur, a bydd plant sawl ysgol yn perfformio.
Bydd yr arlwy yn cynnwys eitemau cerddorol gan rai o ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg, gyda Caryl Parry Jones yn arwain. Caiff ffilm unigryw sy'n gywaith o waith nifer o’r ysgolion ei dangos, a bydd darlleniad gan yr actor adnabyddus Richard Harrington o gerdd a gomisiywyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn ogystal â lansio atodiad i'r gyfrol Gorau Arf: Hanes Sefydlu Ysgol Cymraeg 1939-2000 sy’n crynhoi datblygiadau yn y maes ers 2000.
Mae'r mudiad yn falch o gael gweithio gyda rhieni, ysgolion, amrywiol fudiadau cenedlaethol, cynghorau lleol, ACau a Gweinidogion i sicrhau fod y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn cael ei ddiwallu. Mae RhAG yn awyddus i ddiolch i bawb am y gefnogaeth mae'n ei mwynhau, ac i’r perwyl hwnnw bydd y mudiad yn croesawu cyfeillion a gwesteion arbennig i ddathlu yn Adeilad y Pierhead, ym Mae Caerdydd am 12.30 y.p.
Dywedodd Morgan Hopkins un o'r cyd-drefnwyr ac aelod o Bwyllgor Cenedlaethol RhAG: "Mae'n gyffrous iawn ein bod yn medru dathlu'r garreg filltir hanesyddol hon yn hanes RhAG trwy gynnal digwyddiad mor unigryw. Rydym yn falch fod yr achlysur wedi'i gyd-noddi'n drawsbleidiol a thrwy hynny gadarnhau fod addysg Gymraeg bellach wedi ennill consensws gwleidyddol cenedlaethol.”
“Hyderwn bydd yr achlysur ar y naill law yn fodd o edrych nôl ar gyfraniad y mudiad dros y blynyddoedd yn y gwaith o hybu twf addysg Gymraeg tra hefyd yn dathlu llwyddiant ysgubol yr ysgolion Cymraeg, ac ar y llall yn gyfle pwysig i droi’n golygon i'r dyfodol tuag at gyfnod newydd a chyffrous yn ei ddatblygiad.”
“Rydym yn edrych ‘mlaen at gydweithio pellach er mwyn sicrhau fod pob rhiant sy'n dymuno yn medru cael mynediad hygyrch at addysg Gymraeg i'w plant a hynny o fewn pellter rhesymol i'w cartref."
Mae RhAG yn gorff grymus sydd yn pwyso am ddarpariaeth addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg ledled y wlad. Mae addysg Gymraeg ymysg yr ymdrechion mwyaf llwyddiannus ym mhroses adfer yr iaith yng Nghymru ac mae dyfodol y Gymraeg bellach yn dibynnu ar ei llwyddiant. Gan ein bod gwta draean o’r ffordd tuag at sicrhau system deg o addysg Gymraeg ymhob rhan o’r wlad, gellir dadlau bod ganddi dipyn go lew i’w gyfrannu i’r broses o hyd.
Noddir y digwyddiad yn drawsbleidiol gan Angela Burns AC; Simon Thomas AC; Keith Davies AC ac Aled Roberts AC a fydd oll yn dweud gair byr, yn ychwanegol at araith gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau.