Mwy o Newyddion
Canolfan Tsieineaidd ym Mhrifysgol Bangor
Mae’r Sefydliad Confucius cyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar y Gyfraith wedi agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor y mis hwn.
Fe agorwyd Sefydliad Confucius gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac ym mhresenoldeb Mr Shen Yang, Gweinidog-Gwnselydd Llysgenhadaeth Tsieina.
Daeth dirprwyaeth o Brifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, dan arweiniad ei Llywydd, yr Athro Huang Jin, i Fangor yn unswydd ar gyfer y seremoni agoriadol, lle'r oedd côr Hogia'r Ddwylan yn canu ac artist o Tsieina yn perfformio, ac i glywed caneuon gwerin a gweld dawnsio traddodiadol gan fyfyrwyr o Brifysgol Yuannan.
Erbyn hyn, mae lanternau Tsieineaidd, posteri lliwgar yn yr iaith Tsieineaidd, yn ogystal â gwaith llythrennu cain i'w gweld yn hongian o gwmpas Ystafell Derwyn Jones yn Y Stac yn adeilad Llyfrgell y Celfyddydau, lle mae desg y ganolfan newydd wedi'i lleoli.
“Bydd Tsieina’n fwyfwy pwysig i ddyfodol Cymru, ac mae’r Sefydliad Confucius hwn, sef y cyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar y gyfraith, yn hwb mawr o ran creu mwy o gysylltiadau rhwng ein dwy wlad," meddai Carwyn Jones.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA