Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Ail-raddio papurau SaesnegTGAU yn 'hollol deg'

Roedd y penderfyniad i ail-raddio papurau arholiad TGAU Saesneg disgyblion o Gymru, yn un "hollol deg", yn ol Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews.

Fe dderbyniodd bron i 2,400 o ddisgyblion a safodd arholiadau Saesneg dan Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru, ganlyniadau gwell wedi i'r Gweinidog alw am arolwg o'r sustem farcio.

Fe aeth gam ymhellach hefyd, trwy fynnu bod y corff arholi yn addasu'r marciau, wedi i newid "annheg" yn y drefn o rannu graddau wahaniaethu rhwng y rheiny a oedd yn sefyll eu harholiadau yn Ionawr ac ym Mehefin eleni.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo'r gweinidog o ddefnyddio canlyniadau arholiadau plant Cymru i "chwarae gem wleidyddol", yn enwedig wedi iddo dynnu'n groes i Michael Gove, Gweinidog Addysg llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n gyfrifol am y drefn yn Lloegr.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |