Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Cystadleuaeth Stori Fer

MAE’R cylchgrawn llenyddol Taliesin, a gyhoeddir gan Yr Academi Gymreig, wedi uno â BBC Radio Cymru i lansio Cystadleuaeth Stori Fer newydd yr Hydref hwn.

Fe fydd y stori fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn rhifyn Gwanwyn 2013 o Taliesin, ei darlledu ar Radio Cymru, ac fe fydd yr awdur buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £1000.

Dyma un o’r gwobrau ariannol mwyaf i gael ei chynnig am stori fer yn y Gymraeg ers tro felly mae disgwyl y bydd cryn ddiddordeb.

Y Panel Beirniadu yw Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru, Siân Melangell Dafydd ac Angharad Elen Blythe, Golygyddion Cylchgrawn Taliesin, a chadeirydd y Panel yw’r awdur a’r darlithydd Mihangel Morgan, un o fawrion y stori fer yn y Gymru gyfoes.

Wrth drafod beth y bydd y beirniaid yn edrych amdano, meddai Mihangel Morgan: “Y stori fer yw’r genre llenyddol sylfaenol, bara ein llenyddiaeth.

“Fe ddisgleiriodd y stori yn y gorffennol yng ngwaith y meistri fel Kate Roberts, D.J. Williams a John Gwilym Jones.

“Ac mae’n dal i ffynnu yn nwylo’r hen lawiau fel Bobi Jones ac Eigra Lewis Roberts a rhai diweddarach fel Tony Bianchi, Manon Rhys a Fflur Dafydd.

“Wrth feirniadu’r gystadleuaeth hon byddaf yn dod ati gyda meddwl cwbl agored, yn barod i dderbyn pob math o stor?au.”

Cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu monolog gan Taliesin dair blynedd yn ôl a chafwyd ymateb ffafriol a safonnol iawn bryd hynny yn ôl y beirniad, Cefin Roberts.

Ceri Elen Jones a Casia Wiliam ddaeth i’r brig y tro hwnnw gan rannu’r wobr gyntaf.

Mae’r gystadleuaeth newydd hon yn agored i bawb, boed yn awdur cyhoeddiedig neu yn ysgrifennwr newydd, a nid oes testun wedi ei osod felly fe gaiff y stori fod ar unrhyw bwnc. Rhaid i’r straeon fod yn llai na 5,000 o eiriau.

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw Dydd Llun, 12 Tachwedd 2012.

Dylid anfon ceisiadau, ynghŷd â ffurflen gais at storifer@bbc.co.uk
Gellir gweld y Telerau a’r Amodau llawn ar wefan Radio Cymru: http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/rhaglenni/pages/cyst_stori_fer.shtml

 

Rhannu |