Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2012

Plant wedi eu trawmateiddio

MAE elusen Achub y Plant yn rhybuddio fod plant o Syria yn dioddef o drawma enbyd wedi iddynt dystio i erchyllterau na ddylai’r un plentyn eu gweld, fel pobl a phlant yn cael eu llofruddio a’u harteithio.

Yn ôl tystiolaeth ddirdynnol a gasglwyd gan ffoaduriaid sydd wedi dod i gyswllt gyda phrosiectau Achub y Plant datgelir fod plant wedi bod yn dargedau i ymosodiadau ciaidd, wedi gweld eu rhieni, eu brodyr a’i chwiorydd a phlant eraill yn cael eu lladd ac wedi gweld a phrofi artaith eu hunain.

Mae Achub y Plant yn gweithio i helpu plant i ddod i delerau gyda chanlyniadau seicolegol dinistriol eu profiadau, gan gynnig cefnogaeth arbenigol i blant sy’n dangos arwyddion o ofid mawr, yn cynnwys hunan-anafu, hunllefau a gwlychu’r gwely.

Mae’r corff dyngarol hefyd yn galw ar y CU i ddwysau’r broses o gofnodi yr holl dystiolaeth o dorri hawliau plant ac y dylai gael mwy o adnoddau i wneud hyn, fel bod troseddau yn erbyn plant ddim yn mynd yn ddigosb.

Mae’r elusen wedi rhyddau adroddiad o’r enw Untold Atrocities, sef cofnodion personol o’r gwrthryfel drwy lygaid plant a rhieni sy’n derbyn cymorth gan Achub y Plant wedi iddynt ffoi o Syria. Mae’r straeon yn cynnwys manylion graffig o sut y mae plant wedi eu dal yn y rhyfel yn Syria ac wedi tystio cyflafannau ac mewn rhai achosion, cael eu harteithio.

? “Roedd cyrff y meirw a hefyd pobl wedi eu hanafu wedi eu gwasgaru dros y llawr. Fe ddes i o hyd i rannau o gyrff blith draphlith dros ei gilydd. Roedd cwn yn bwyta y cyrff meirw am ddau ddiwrnod wedi’r gyflafan.” Hassan, 14

Mae’r elusen wedi lansio apêl i helpu i ariannu ei gwaith yn yr ardaloedd hyn.

I gyfrannu i ymateb Achub y Plant i’r argyfwng yn Syria neu am fwy o wybodaeth ewch i www.savethechildren.org.uk/syria neu ffonio +44 20 7012 6400.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |