Mwy o Newyddion
Rhodd hael a chadair eisteddfod arbennig
Y mae Cymdeithas Ceredigion wedi derbyn rhodd ariannol sylweddol yn ewyllys Gwyddel a ddaeth i fyw i’r sir ac a ymserchodd yn yr iaith Gymraeg a’i thraddodiad eisteddfodol.
Cyflwynwyd £10,000 i’r gymdeithas drwy ewyllys y diweddar Pat Neill, Parc yr Efail, Cross Inn, Ceinewydd, a fu farw ym mis Gorffennaf y llynedd. Ei ddymuniad oedd bod y llog a ddaw o’r rhodd yn cael ei ddefnyddio i dalu am gadair i’w chyflwyno mewn cystadleuaeth am waith llenyddol yn eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.
Penderfynodd pwyllgor y gymdeithas i gomisiynu Roni Roberts, crefftwraig flaenllaw o’r sir, i greu cadair maint llawn i’w chyflwyno i enillydd y gystadleuaeth, sy’n agored i bawb yng Nghymru. Comisiynir cadair newydd bob blwyddyn.
Gofynnir am gerdd mewn cynghanedd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Rhodd’.
Un waith yn unig y gall bardd ennill ‘Cadair Goffa Pat Neill’ a gyflwynir am y tro cyntaf yn eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion y flwyddyn nesaf. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 16 Chwefror, 2013.
Codir tâl o £5 ar bob cystadleuydd a dylid anfon y tâl a’r cynhyrchion i ysgrifennydd y gymdeithas, Eleri Evans, Glasfryn, Tan-y-groes, Ceredigion SA43 2QQ. Ffôn: 01239 810871.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas Ceredigon, Mair Davies, Pencnwc, Blaenannerch, “Bu Pat Neill yn un o garedigion eisteddfodau bach a mawr am flynyddoedd, ac rydym fel cymdeithas yn hynod ddiolchgar am ei haelioni unwaith eto. Rwy’n siwr y bydd nifer fawr o gystadleuwyr ar draws Cymru yn awyddus iawn i gipio’r gadair arbennig y mae Roni Roberts yn ei chynllunio. Addawaf y bydd yn werth ei hennill”.
Fel yr awgryma ei enw, roedd Pat Neill o dras Gwyddelig, ond symudodd ei rieni i dde Lloegr pan oedd yn fachgen ifanc. Ar ôl gorffen ei gwrs hyfforddi bu’n athro mewn ysgol gynradd yn Havant, ger Southampton, ond ymddeolodd yn gynnar oherwydd afiechyd.
Pan symudodd i Geredigion aeth ati’n ddyfal i ddysgu Cymraeg, ac wedi meistroli’r iaith ymunodd â dosbarthiadau dysgu’r cynganeddion. Meistrolodd y grefft honno hefyd, a bu’n aelod o dimau Talwrn y Beison a Llandysul.
Hoffai gystadlu a chafodd gryn lwyddiant yn adran y dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cyn troi wedyn at yr adran agored. Bu’n cystadlu nifer o weithiau am y goron, ac ar un achlysur cyrhaeddodd yr ail safle. Yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch yn 2006, daeth i’r brig yng nghystadleuaeth y soned.
Cyflwynodd gadair i adran y dysgwyr yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a noddodd ‘Tlws Pat Neill’ ers 1987. Trefnodd yn ei ewyllys i’r nawdd hwnnw barhau.
Y mae Roni Roberts eisoes wedi dewis darn o bren onnen i weithio Cadair Goffa Pat Neill. “Mae’n ddarn arbennig o hardd o ardal Llechryd”, meddai’r grefftwraig o Felinwynt, ger Aber-porth, “ac mae’r graen naturiol ynddo yn creu patrwm hyfryd. Bydd y gadair gyfan yn cael ei llunio o’r un boncyff, ac felly yn cydweddu’n berffaith gyda’r cefn sy’n mesur tair troedfedd a hanner o uchder.”
Defnyddio coed wedi cwympo’n naturiol gan henaint neu stormydd y bydd Roni yn ei wneud bob amser, ac felly’r gadair y bydd yn dechrau gweithio arni’n fuan. “Er bod bywyd y goeden ar ben rwy’n ceisio sicrhau bod ei harddwch a’i defnyddioldeb yn parhau”, meddai.