Mwy o Newyddion
Galwadau i gynnal ymchwiliad i garchardai CIA yn Ewrop
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn cefnogi galwadau i ganfod os cafodd carchardai cyfrinachol eu creu yn Ewrop o dan raglen datganiad anghyffredin (extraordinary rendition) y CIA, fel rhan o gyd-gynllwyn gyda llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd.
Ymunodd Llywydd Plaid Cymru gydag Aelodau Seneddol Ewropeaidd eraill gan gefnogi cynnig yn galw ar aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i agor ymchwiliadau annibynnol.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais yn Strasbwrg, dywedodd Ms Evans: "Bydd hwn yn danfon neges gref sydd yn datgan na fydd y galw am gynnal ymchwiliadau annibynnol i’r carchardai cyfrinachol hyn yn peidio hyd nes i’r gwirionedd llawn ddod i’r golwg.
"Rydym wedi gweld ymchwil o wahanol gyrff gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop, yn ogystal â newyddiadurwyr ymchwiliol a chymdeithas sifil sydd oll yn awgrymu bodolaeth carchardai cyfrinachol.
"Fe wyddom fod datganiadau anghyffredin wedi digwydd. Yr hyn na wyddom i sicrwydd yw pa ran wnaeth llywodraethau aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ei chwarae yn y camdriniaethau hawliau dynol erchyll hyn.
"Fel Aelodau Seneddol Ewropeaidd, mae’n achos o bryder mawr i ni y gallai gwledydd Ewropeaidd fod wedi cynorthwyo yn y carchariad all gyfreithiol hyn a thrawsgludiad carcharorion. Mae hyn yn achos o bryder yn enwedig os caiff ei brofi bod y bobl yma wedi cael eu trawsgludo i wledydd eraill lle y cawson nhw eu harteithio.
"Mae llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd dan ymrwymiadau cyfreithiau rhyngwladol, a chyfraith yr UE. Ceir cyfrifoldeb gwleidyddol, cyfreithiol a moesol i ddatguddio’r gwirionedd ynglŷn ag unrhyw gydgynllwynio mewn perthynas â datganiad anghyffredin. Allwn ni ddim disgwyl i weddill y byd i gymryd ein safbwynt ar hawliau dynol o ddifrif oni bai ein bod yn fodlon i wireddu’r hyn fyddwn yn ei bregethu."
Cafodd y cynnig yn Strasbwrg ei gymeradwyo gan fwyafrif mawr ymhlith yr Aelodau Seneddol Ewropeaidd.