Mwy o Newyddion
Athletwr ysbrydoledig i gyflwyno cyfres deledu am her anabledd
Mae S4C wedi comisiynu cyfres newydd o chwe rhaglen yn edrych ar yr her sy'n wynebu pobl ag anableddau yng Nghymru.
Yr athletwr James Lusted o Landrillo yn Rhos, Conwy, fydd yn cyflwyno'r gyfres, a gaiff ei chynhyrchu gan gwmni teledu Cwmni Da.
Bydd y cwmni cynhyrchu yn dechrau ffilmio yn y Flwyddyn Newydd a bydd y gyfres yn cael ei darlledu rhywbryd yn 2013.
Mae’r athletwr 24 oed dim ond yn dair troedfedd saith modfedd o daldra, gan iddo gael ei eni â dysplasia diastrophic. Mae’r cyflwr prin yn effeithio ar un o bob 100,000 o fabanod.
Pan oedd yn dair blwydd oed, fe gafodd lawdriniaeth fawr ar ei wddf a achubodd ei fywyd a chafodd driniaethau poenus drwy gydol ei blentyndod i sythu ei goesau.
Ond mae'r athletwr brwd wedi brwydro trwy’r holl anawsterau ac wedi bod yn ysbrydoliaeth yn genedlaethol ar gyfer pobl ag anableddau a phawb arall.
Fe gariodd y ffagl Olympaidd pan oedd y fflam ar daith trwy wledydd Prydain yn gynharach eleni a bu’n destun y rhaglen ddogfen Byd Mawr y Dyn Bach a oedd yn rhan o gyfres O'r Galon ar S4C.
Meddai James, sy’n gweithio’n bennaf fel actor a siaradwr cymhell pobl: “Roedd yr ymateb i’r rhaglen deledu O’r Galon yn dda iawn ac, o ganlyniad, fe ges i wahoddiad i gyflwyno’r gyfres yma.
“Bydd y camerau yn fy nilyn o amgylch y siopau, ar drafnidiath gyheoddus ac wrth imi gwrdd â phobl eraill ag anableddau. Fe fydd hyn yn gyfle gwych i weld sut mae pobl ag anableddau gwahanol yn byw eu bywydau.
“Rwy’n gobeithio y bydd yn agoriad llygaid i bobl ac yn dangos y gallwn ni wneud beth mae pobl eraill yn ei ei wneud. Rydym ni’n gallu cael hwyl a dilyn ein breuddwydion hefyd.”
Meddai Comisiynydd S4C, Llion Iwan: "Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd James Lusted yn cyflwyno'r gyfres newydd a fydd yn portreadu gwahanol bobl ag anableddau ac yn tynnu sylw at yr heriau sy'n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru.
"Mae'r Gemau Paralympaidd yn Llundain wedi tynnu sylw at bobl anabl ac at faterion sy’n gysylltiedig ag anabledd ac mae wedi dangos beth sy'n bosibl i bobl anabl ei gyflawni trwy rym ewyllys a phenderfyniad.
"Fodd bynnag, bydd y gyfres hon hefyd yn amlygu'r materion a'r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu o safbwynt cael mynediad i wasanaethau a chyfleoedd ac yn dangos pa ragfarnau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu.
“Mae James yn gyfathrebwr ardderchog sydd â phresenoldeb mawr ar y sgrin, ac yn gyflwynydd naturiol. Bydd yn ddifyr gweld y sialensiau y mae pobl yn eu hwynebu o safbwynt rhywun penderfynol, deinamig, sydd yn llysgennad naturiol ar gyfer pobl anabl.”