Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2012

Tenant newydd i’r Ysgwrn

Yn dilyn proses drylwyr o benodi, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn falch o gyhoeddi mai gŵr ifanc lleol, Meilir Jarrett, fydd tenant newydd Yr ‘Ysgwrn’ ger Trawsfynydd.

Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli Tir, Emyr Williams: "Roedd penodi tenant i ffermio a rheoli’r tir amaethyddol yn Yr ‘Ysgwrn’ yn ran allweddol o reolaeth cynaladwy y tir.

"Mae Meilir yn hogyn ifanc, lleol, gwybodus a brwdfrydig ac edrychwn ymlaen at gael cydweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus a llwyddiannus i’r ‘Ysgwrn’.”

Mae’r ‘Ysgwrn’, fu hefyd yn gartref i’r bardd Hedd Wyn, yn fferm fynyddig ac yn cwmpasu 170 acer o dir amaethyddol, hawliau pori comin, beudai ynghyd â da byw sy’n cynnwys 200 o ddefaid Cymreig a 5 o heffrod duon Cymreig.

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Meilir Jarrett : “Rwy’n hynod falch o gael y cyfle yma gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddechrau amaethu.

"Rwy’n lwcus fy mod i am fedru gweithio yn fy milltir sgwar, ond hefyd mewn daliad mor adnabyddus a phwysig o ran hanes a diwylliant Cymru.”

Farmers Marts (R.G. Jones) Cyf oedd yr asiant ddefnyddiwyd i oruchwylio’r broses o weinyddu ceisiadau’r denantiaeth a’r un cwmni fydd hefyd yn gyfrifol am sêl offer amaethyddol Yr Ysgwrn a gynhelir fore Sadwrn, 22 Medi.

 

Rhannu |