Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Medi 2012
Karen Owen

Araith gyntaf Leanne Wood i gynhadledd Plaid Cymru, fel arweinydd

Mae Leanne Wood wedi cynnig blas o'r "trawsnewidiad economaidd" y byddai Plaid Cymru'n ei greu, pe bai'n medru ffurfio llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Yn ei haraith gyntaf i'r Gynhadledd Flynyddol, wedi ei hethol yn arweinydd yn gynharach eleni, dywedodd mai prif ffocws ei phlaid dros y degawd nesaf yw datblygu syniadau a rhoi polisiau ar waith i godi "perfformiad economaidd Cymru i'r un lefel a gweddill y Deyrnas Unedig".

Ar hyn o bryd mae gan Gymru raddfa diweithdra o 8.6% o'i gymharu a lefel gweddill y DU sef 8%. Yng Nghymru mae'r GVA ('gross value added) - y mesur o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn yr ardal - yn ddim ond 74% o gyfartaledd y DU.

Dywedodd wrth gydweithwyr y blaid a oedd wedi ymgasglu yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, y byddai Llywodraeth y Blaid yn medru cyflwyno:
 

  • Cynllun newydd i uno sgiliau gorau y sectorau cyhoeddus a phreifat i wthio Del Newydd Gymreig er mwyn rhoi hwb i'r economi.
  • Sefydlu cyfres newydd o sefydliadau ariannol i lenwi'r gwagle a adawyd gan amharodrwydd banciau Llundain i fenthyg i fusnesau newydd.
  • Ceisio creu toriadau trethi ar gyfer cronfeydd pensiwn sy'n buddsoddi yng Nghymru.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |