Mwy o Newyddion
Saga Prifysgol Cymru yn parhau…
Yr wythnos ddiwethaf, roedd Y Cymro yn adrodd am gynnig yn ymwneud â dyfodol Prifysgol Cymru a oedd i gael ei gyflwyno gerbron Cynhadledd Plaid Cymru yn Aberhonddu dros y Sul (Sadwrn, Medi 15).
Fe gafwyd cefnogaeth unfrydol i'r cynnig, wedi cynnig o welliant. Cangen Caernarfon oedd yn galw ar i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad annibynol trylwyr i’r hyn sydd wedi digwydd oddi mewn i Brifysgol Cymru ers Hydref 21 y llynedd - y diwrnod y cyhoeddwyd, wedi cyfarfod o'i Chyngor, fod y sefydliad wedi "ei ddiddymu".
"Mae’n gywilyddus nad oes ymchwiliad wedi bod eisoes ac rwyf yn edrych ymlaen at weld arweinyddiaeth y Blaid yn gofyn yn swyddogol am ymchwiliad," meddai'r Cynghorydd Hywel Roberts wrth Y Cymro yn dilyn y gynhadledd.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA