Mwy o Newyddion
20 Medi 2012
Karen Owen
Gwobr i adeilad safle Glynllifon, Coleg Meirion-Dwyfor
Mae’r ganolfan addysgu newydd, gwerth £8 miliwn, a godwyd yng Nglynllifon, sef campws diwydiannau tir Coleg Meirion-Dwyfor ger Caernarfon, wedi ennill Gwobr LABC Cymru am yr Adeilad Addysgol Gorau yng Nghymru gyfan. Yn gynharach eleni, enillodd y wobr am yr adeilad addysgol gorau yng Ngogledd Cymru.
Yr enw a roddwyd ar y ganolfan yw PA@G (Pentref Addysg @ Glynllifon), rheolwyd y prosiect gan Capita Symonds a chodwyd yr adeilad gan Wynne Construction gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy diweddaraf a thechnoleg ynni adnewyddol.
Cynlluniwyd yr adeilad yn unol â safonau rhagoriaeth BREEAM, a saif ger ardal gadwraeth arbennig lle ceir y boblogaeth fwyaf o ystlumod trwyn pedol yn Ewrop.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA