Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2012

Y Senedd yn paratoi i longyfarch athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd

Gwahoddir pobl Cymru i estyn croeso'n ôl yn swyddogol i athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru mewn dathliad yn y Senedd ym Mae Caerdydd am 16.30 ddydd Gwener, 14 Medi.

Bydd cymaint â 40 o sêr Gemau Llundain 2012 yn gorymdeithio i lawr Stryd Pierhead ym Mae Caerdydd cyn cael eu cyfarch gan Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, a Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, ar risiau'r Senedd.

Bydd yr athletwyr a ganlyn ymysg y rhai a fydd yn bresennol:

 -       Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd mewn Taekwondo;

-       Tom James, enillydd medal aur Olympaidd am rwyfo;

-       Chris Bartley, enillydd medal arian am rwyfo;

-       Mark Colbourne, enillydd medal aur Baralympaidd a dwy fedal arian am feicio;

-       Aled Davies, enillydd dwy fedal aur Baralympaidd ac un medal efydd, a;

-       Josie Pearson, enillydd medal aur Barlympaidd mewn athletau;

Hefyd yn bresennol â'r athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd bydd aelodau o'u teuluoedd, ynghyd â hyfforddwyr a rheolwyr o Dîm Prydain, Tîm Paralympaidd Prydain, Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae'r gwirfoddolwyr a cludwyr y fflam a roddodd o'u hamser i gefnogi a hyrwyddo Gemau Llundain 2012 hefyd wedi'u gwahodd i ddod draw yn eu gwisg gwirfoddolwyr i wylio'r orymdaith.

Dywedodd Rosemary Butler AC: "Hoffwn longyfarch ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd, nid yn unig am y nifer anhygoel o fedalau a enillwyd, ond am ysbrydoli'r genedl."

"Mae eu llwyddiant wedi bod yn hwb i Gymru ac roeddem ni, mewn ffordd fach, am dalu teyrnged iddynt i gyd a rhoi cyfle i bobl Cymru ddangos eu cefnogaeth.

"Mae eu hymroddiad, eu disgyblaeth a'u penderfyniad wedi bod yn ysbrydoliaeth inni gyd. Maent wedi bod yn llysgenhadon gwirioneddol i bobl ifanc Cymru.

"Rwyf wedi gweld a chlywed drosof fy hun yr effaith y mae eu llwyddiannau wedi'i chael ar ein pobl ifanc – mae wedi tanio eu brwdfrydedd dros bob math o chwaraeon yn ogystal â dangos beth y gellir ei gyflawni drwy ymdrech a phenderfyniad.  Ni allwn danbrisio yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael."

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Ysbrydoledig, arwrol, syfrdanol  – dim ond rhai o'r geiriau y gellir eu defnyddio i ddisgrifio'r hyn y mae'n hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd wedi'i gyflawni dros yr haf. 

"Rydym wedi gweld gorchestion goruwchddynol ar y maes chwarae, ac eiliadau o lwyddiant a fydd yn aros gyda phob un ohonom weddill ein bywydau.  Ar ôl yr holl ymdrech, paratoi ac ymroddiad i gyrraedd Gemau Llundain, mae heddiw'n ddiwrnod i ddiolch i'n hathletwyr, i ddangos cymaint rydym yn gwerthfawrogi yr hyn y maent wedi'i gyflawni a'r hwb y maent wedi'i roi i'r genedl. Maent yn llawn haeddu cael eu galw yn dîm gorau'r wlad."

Dywedodd Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:  "Roedd yn fraint ac yn anrhydedd gweld ein hathletwyr yn perfformio yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, ac maent wedi ennyn balchder Cymru a Phrydain Fawr.  Maent wedi gwireddu eu breuddwyd o gystadlu yn Llundain 2012 ac wedi chwarae rôl bwysig wrth ddyrchafu brwdfrydedd y cyhoedd am chwaraeon.

"Mae llwyddiant ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn golygu y gallant ymhyfrydu yn y clod haeddianol a ddaw i'w rhan yn y Senedd gan y cyhoedd a gwleidyddion fel ei gilydd.  Gallant fod yn falch o'u llwyddiannau anhygoel eu hunain ond gallant hefyd ystyried eu hunain yn rhan o system uchelgeisiol yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar eu llwyddiannau am flynyddoedd i ddod.

"Byddwn yn annog cynifer â phosibl o bobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth i'r arwyr chwaraeon hyn, sydd wedi arddangos eu doniau o flaen y byd yr haf yma, ac i ddangos cymaint rydym oll yn gwerthfawrogi llwyddiannau ym myd chwaraeon."

Dywedodd Jon Morgan, Cyfarwyddwr Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru: "Rwy'n falch y bydd y genedl yn gallu dathlu llwyddiant ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd wrth eu croesawu gartref yn y Senedd. Mae'r athletwyr hyn wedi dangos ymroddiad anhygoel dros y pedair mlynedd ddiwethaf a hwn yw eu cyfle i ddisgleirio a chael y gydnabyddiaeth y maent yn ei llawn haeddu.

"Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'r holl hyfforddwyr a'r staff cymorth a fu'n gweithio gyda'r athletwyr hyn; maent yn gwneud cymaint o waith y tu ôl i'r llenni yn adnabod a gwireddu potensial pobl, ac maent yn amhrisiadwy i'n sefydliad.

"Ein hamcan ni yn awr yw adeiladu ar fometmwn Llundain, parhau i adnabod a meithrin talent newydd drwy ein hacademi, ac edrych ymlaen at Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 a Gemau Olympaidd Rio yn 2016."

Bydd y rhai sy'n dod i'r dathliad yn y Senedd yn cael eu diddanu i ddechrau gan Olympiaid diwylliannol gan gynnwys Band Bwrdeistref y Fenni a Chôr Meibion Glyn Ebwy.

Dyma'r rhaglen ddiweddaraf o'r digwyddiadau:

-       16.30-17.00 Cyfle i'r cyfryngau - athletwyr ar gael i'w cyfweld (Oriel y Senedd)

 -       16.30-18.10: Yr Olympiaid diwylliannol yn diddanu'r dyrfa y tu allan i'r Senedd a dangos uchafbwyntiau o Gemau Llundain 2012 ar y sgrin fawr.

 -       17.00-17.45  – Derbyniad i wahoddedigion – y Senedd

 -       18.05 – y Prif Weinidog a'r Llywydd yn cyrraedd grisiau'r Senedd – meistr y ddefod yn gofyn am farn y Llywydd am y digwyddiad.

 -       18.10 – yr athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn paratoi i gael eu galw i'r llwyfan.

 -       18.15 – Ffanfer + athletwyr yn gorymdeithio at risiau'r Senedd i gael eu cyflwyno gan feistr y ddefod.

o   Trefn: Cystadleuwyr

·         Enillwyr medalau efydd

·         Arian

·         Aur

 -       18.35 – yr holl athletwyr ar y llwyfan y tu allan i'r Senedd – cael eu cyfweld gan feistr y ddefod

 -       18.40 – meistr y ddefod yn Llywydd

 -       18.41 - y Prif Weinidog yn llongyfarch yr athletwyr

 -       18.42 – tickertape + cherddoriaeth Heroes

 -       18.45 – meistr y ddefod yn gwahodd y dyrfa i ganu anthemau cenedlaethol Prydain a Chymru i nodi diwedd rhan ffurfiol y digwyddiad

 -       18.50 – athletwyr yn rhydd i gyfarfod y dorf + rhagor o gyfweliadau

Llun: Aled Davies, enillydd y fedal efydd yn y taflu p[wysau a'r fedal aur yn y ddisgen yn y Gemau Paralympaidd

 

Rhannu |