Mwy o Newyddion
Cynllun i weddnewid hodd barc Dylan
Gallai cynllun i weddnewid parc a ddaeth yn enwog oherwydd Dylan Thomas symud cam yn nes at gael ei wireddu'r wythnos nesaf.
Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo prosiect pwysig i ailddatblygu Parc Cwmdonkin gyda buddsoddiad gwerth £820,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Os yw'n cael ei gymeradwyo, bydd gwaith yn dechrau ar un o barciau dinesig hynaf Cymru y gaeaf nesaf. Y nod yw cwblhau'r gwaith mewn pryd ar gyfer dathlu canmlwyddiant geni Dylan ym mis Hydref 2014.
Mae'r parc ger Cwmdonkin Drive lle magwyd Dylan Thomas. Roedd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth bwysig i'r bardd, a'r cyfeiriad enwocaf ato oedd yn ei gerdd, Hunchback in the Park.
Ym 1963, gosodwyd carreg goffa i Dylan Thomas yn y parc, sy'n cynnwys llinellau o Fern Hill. Cyfeiriodd y bardd hefyd at y parc unwaith fel "a world within the world of a sea town".
Meddai'r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Dylan Thomas yw mab enwocaf Abertawe ac mae Parc Cwmdonkin yn un o'r lleoliadau yn y ddinas sy'n gysylltiedig â'r bardd.
"Felly, mae'n briodol iawn bod cynlluniau ar y gweill i weddnewid y parc mewn pryd i ddathlu canmlwyddiant ei eni.
"Caiff Parc Cwmdonkin ei drawsnewid yn safle gwyrdd gwych a'i ddatblygu'n atyniad treftadaeth ac ymwelwyr yn Abertawe.
"Yn ogystal â choffáu dyn a ddaeth ag Abertawe i sylw'r byd, bydd y cynllun hefyd yn rhoi i bobl Abertawe leoliad hyfryd lle gallant ymlacio a mwynhau'r amgylchedd."
Gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo gwario'r grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a grant Cydgyfeirio Twristiaeth Gynaliadwy gwerth £256,000 i helpu i adfer cymeriad Fictoraidd y parc. Mae Cyngor Abertawe a Chyfeillion Parc Cwmdonkin hefyd yn cyfrannu at y cynllun.
Mae'r prosiect yn dilyn ymgynghori cynhwysfawr a pharhaus â'r gymuned leol a gwirfoddolwyr ymroddedig Cyfeillion Parc Cwmdonkin a Chymdeithas Dylan Thomas.
Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar gynyddu cysylltiadau'r parc â Dylan Thomas a gwella'r cyfleusterau er mwyn datblygu'r harddfan fel cyrchfan i dwristiaid yn y ddinas.
Bydd y manteision yn cynnwys gwell mynediad, arwyddion, meinciau a seddi parc, yn ogystal â chynyddu amrywiaeth o blanhigion yn y parc.