Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2012

Cadw plant yn iach

Wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf, bydd llawer o rieni’n paratoi ar gyfer ymddangosiad anochel anwydau, stumogau tost a nitiau. 

Ddydd Mercher Iach hwn, rydym yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i hyrwyddo rhai ffyrdd syml o leihau risg plant o fynd yn sâl.

Mae Dr Heather Payne, pediatregydd ac Uwch Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru yn dweud y gall sicrhau bod plant wedi cael eu brechiadau diweddaraf, annog hylendid da ymhlith plant, sicrhau bod plant yn bwyta, yn cysgu ac yn ymarfer corff, i gyd helpu.

Dywedodd Dr Payne: “Gall dychwelyd i’r ysgol roi tipyn o sioc i’r system, i rieni, athrawon ac, wrth gwrs, plant. Yn hytrach na bod ar wyliau ac yn ymlacio mae plant yn wynebu gofynion corfforol a meddyliol bywyd ysgol a gall plant flino’n gyflym.

“Yn ogystal â hyn, mae plant yn sydyn yn dod i gysylltiad â phlant eraill, felly pa ryfedd bod plant yn dechrau dod adref ag anwydau, stumogau tost, llai pen neu rywbeth gwaeth?”

Er mwyn osgoi mynd yn sâl, mae Dr Payne yn awgrymu:

  • Sicrhewch fod plant wedi cael eu himiwneiddiadau diweddaraf rhag y clefydau heintus mwyaf cyffredin.
  • Er mwyn osgoi lledaenu germau annwyd, dewch â’ch plant i’r arfer o chwythu eu trwyn â hances bapur a chael gwared arni a golchi eu dwylo.
  • Dysgwch eich plant i olchi dwylo’n rheolaidd, yn enwedig ar ôl mynd i’r ty bach, chwythu eu trwyn, cyffwrdd â sbwriel, cyffwrdd ag anifeiliaid a chyn bwyta.
  • Gwnewch yn siwr fod eu system imiwnedd wedi’i hatgyfnerthu â digon o gwsg, digonedd o ffrwythau a llysiau a digon o hylifau, dwr os yn bosibl.  
  • Gwnewch yn siwr fod eich plant yn ymarfer corff bob dydd – yn yr awyr agored os yn bosibl.
  • Ceisiwch helpu’ch plant i ymdopi â straen drwy siarad â nhw a gwrando arnynt pan fydd y ddau/ddwy ohonoch yn ddigyffro ac wedi ymlacio.
  • Os bydd eich plant yn mynd yn sâl, cadwch nhw adref hyd nes eu bod wedi mynd 24 awr heb symptomau er mwyn osgoi heintio plant eraill.
  • Gall fod yn anodd osgoi llau pen, ac mae mwy nag un o bob tri phlentyn yn eu cael rywbryd yn ystod y flwyddyn. Cadwch llau pen i ffwrdd drwy gribo gwallt gwlyb eich plant a defnyddio triniaethau os oes angen.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddydd Mercher Iach, ewch i www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/dydd-mercher-iach

 

Rhannu |