Mwy o Newyddion
Ffwng ar restr fyd-eang o’r rhywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad
Mae rhywogaeth hynod o brin o ffwng, a welir mewn pedwar safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ddiweddar wedi’i gynnwys ar restr o’r 100 o rywogaethau sydd dan fwyaf o fygythiad drwy’r byd.
Lluniwyd y rhestr, a gyhoeddwyd gan Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur a Chymdeithas Sŵolegol Llundain, gan 8,000 o wyddonwyr ac mae’n dynodi 100 o’r anifeiliaid, planhigion a ffyngau sydd dan fwyaf o fygythiad ar y blaned.
Cofnodwyd y ffwng Chwysigen yr Helyg (Cryptomyces maximus) sydd i’w ganfod ar frigau helyg marw neu sydd ar fin marw, mewn pum safle yn unig ar draws y byd, gyda phedwar o’r rheini ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dywedodd Ecolegydd y Parc Jane Hodges: “Mae’r rhywogaeth hon wedi bod yn adnabyddus ers tua 200 o flynyddoedd yn y DU, er na fu'n gyffredin erioed.
“Mae’n gyfyngedig i bedwar lleoliad ar benrhyn Tyddewi o fewn y Parc Cenedlaethol a phumed lleoliad yn Sweden."
Mae Chwysigen yr Helyg yn ymddangos fel corff ffrwyth du yn tyfu drwy’r rhisgl, fel arfer gydag ymyl amlwg melyn/oren ac mae’n cael ei ledaenu gan sborau ar y gwynt gan heintio coed sydd eisoes wedi’u niweidio yn unig.
Cyn iddo gael ei ddarganfod yn ardal Tyddewi ganol y 1980au dim ond pum cofnod a fu yn y DU yn yr 20fed ganrif gyfan a chaiff ei gategoreiddio gan yr IUCN fel rhywogaeth sydd dan fygythiad yn fyd-eang.
Mae’r rhywogaeth hynod brin hon wedi’i monitro er 2008 gan aelodau o Rwydwaith Cofnodi Ffwng Sir Benfro, dan arweiniad Cofnodwr y Sir, David Harries, ar y cyd â pherchnogion y safle.
Yn ogystal â monitro’r rhywogaeth hon yn y safleoedd y gwyddom amdanynt, mae aelodau o’r Rhwydwaith yn rheolaidd yn edrych am Chwysigen yr Helyg mewn cynefinoedd tebygol o fewn y Parc Cenedlaethol.
Mae’r mwyafrif o’r llefydd y ceir y rhywogaeth ynddynt yn Sir Benfro yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gydag un dan reolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, a chaiff pob un ei rheoli'n sensitif i sicrhau cadwraeth.
Ychwanegodd Pennaeth Datblygu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Martina Dunne: “Mae’r Chwysigen yr Helyg yn rhywogaeth haeddiannol sy’n codi proffil cadwraeth ffwng fel dimensiwn hanfodol o fioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.
“Mae’r ffaith fod y rhywogaeth hon i'w chanfod mewn pum lleoliad yn unig drwy'r byd hefyd yn amlygu natur fregus rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin a'r cynefinoedd maent yn dibynnu arnynt.
“O dro i dro mae ffyngau wedi cael eu hanwybyddu o ran cadwraeth rhywogaethau a gobeithio y bydd cyhoeddi'r rhestr hon yn fuddiol drwy godi ymwybyddiaeth."