Mwy o Newyddion
Galw am wahardd recriwtio plant i'r lluoedd arfog
Rhaid gweithredu ar frys i sicrhau nad yw plant yn cael eu denu i’r lluoedd arfog, meddai Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin.
Mewn cyfarfod ym mhentref Peniel neithiwr (nos Iau, 13 Medi) fe wnaeth y Cyfundeb, sy’n cynrychioli 3,000 o aelodau mewn capeli lleol, gytuno’n unfrydol i:
1) annog penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion i wrthod caniatáu i gynrychiolwyr y lluoedd arfog ymweld â’r ysgol;
2) ofyn i Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth Prydain i newid y gyfraith sy’n caniatáu recriwtio plant 16 oed;
3) fynegi gofid mawr fod S4C, yn benodol, trwy ddarlledu hysbysebion recriwtio, yn galluogi’r fyddin i dargedi plant Cymru;
4) alw ar gyd-Gristnogion ledled Cymru i ymuno mewn ymgyrch yn erbyn caniatáu recriwtio plant.
Clywodd y cyfarfod mai Prydain yw’r unig wlad yn yr Undeb Ewropeaidd sy’n caniatáu presenoldeb milwrol yn ei hysgolion.
Mae Cymru yn cyflenwi bron i 9% o bobl ifanc 16-24 oed i’r fyddin, o’i gymharu â 5% o’r un oed trwy’r Deyrnas Unedig.
“Mae’n warthus bod y lluoedd arfog yn manteisio ar ddiweithdra a’r sefyllfa economaidd bresennol i ddenu pobol ifanc o dan 18 oed – sy’n dal yn blant yng ngolwg y gyfraith,” meddai’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor. “S’dim sôn fyth am fod yn barod i ladd pobl, er mai dyna yw priod waith milwr wrth gwrs.”
Llun: Parchg Guto Prys ap Gwynfor