Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2012

Ffigyrau gwerthiant rhagorol yn ystod wythnosau cyntaf Bwyd Cymru Bodnant

Mae niferoedd y cwsmeriaid sydd wedi bod trwy ddrysau canolfan fwyd newydd gogledd Cymru yn llawer uwch na’r disgwyl. 

Mae canolfan fwyd £6.5miliwn Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy wedi rhagori ar y targedau cwsmeriaid a osodwyd ers i’r ganolfan gael ei hagor nôl ym mis Gorffennaf gan  Dywysog Cymru a Duges Cernyw. 

Mae’r gwerthiant yn y siop fferm gynhwysfawr, sy’n gwerthu cynnyrch o Gymru gyfan, 50 y cant yn fwy na’r disgwyl. 

Mae’r gwerthiant ar draws y busnes, sy’n cynnwys stafell de, bwyty, ysgol goginio ac adnoddau hyfforddi, 20 y cant yn uwch na’r hyn a ddisgwylid yn y cynllun busnes gwreiddiol. 

Canolfan £6.5m Bwyd Cymru Bodnant yw’r buddsoddiad mwyaf mewn datblygiad masnach annibynnol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.

Mae hefyd yn cynnwys llaethdy, becws, cigydd a chyfleusterau hyfforddi a llety tŷ fferm.  Mae dros 95 y cant o’r 60 o swyddi a grëwyd wedi mynd i bobl leol.

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan Sandy Boyd said: “Rydym yn hynod falch bod misoedd cyntaf Bwyd Cymru Bodnant wedi bod mor llwyddiannus.

“Mae’r niferoedd o bobl sydd wedi ymweld â ni wedi rhagori’r disgwyliadau oedd gennym.  Rydym yn falch bod pobl leol yn ail ymweld â ni’n gyson i brynu bwydydd a blasu ein danteithion cartref yn ogystal â’r ffaith bod ymwelwyr â’r ardal yn galw draw i’r ganolfan.”

Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli oddi ar yr A470 rhwng Glan Conwy a Llanrwst, a syniad perchnogion stad Bodnant, Michael a Caroline McLaren oedd creu’r ganolfan fwyd.

Eu dymuniad oedd creu canolfan arloesol i gynhyrchu, hyrwyddo a mwynhau bwydydd Cymru.  Gwireddwyd eu gweledigaeth drwy drawsnewid casgliad o adeiladau’n dyddio o’r 18fed ganrif yn Fferm Ffwrnais. 

Elfen gyffrous arall o Bwyd Cymru Bodnant yw’r ysgol goginio newydd sbon ar y safle. 

Yn ystod yr hydref, bydd dau arbenigwr ym maes bwyd yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda rhai hynny sydd am ddysgu mwy. 

Mae’r pobydd arbenigol, Alex Gooch, enillydd Gwobr ‘Cynhyrchydd Gorau’ 2011 Radio 4, am rannu ei wefr o gynhyrchu bara blasus gan ddefnyddio burum gwyllt a’i dechneg eplesu araf yn ystod rhai o’r cyrsiau sydd ar gael. 

Bydd un o gogyddion gorau’r wlad, Angela Gray hefyd yn cynnal nifer o gyrsiau yn Ffwrnais, gan gynnwys creu prydau blaengar gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol o’r siop fferm. 

 Mae mwy na 50% o’r cynnyrch a brynir ac a werthir yn y siop yn dod o Ogledd Cymru.  Mae 70% o’r cynnyrch yn tarddu o Gymru benbaladr. 

Cyfrannwyd £3.3m tuag at gost datblygu’r ganolfan gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r cymorth yn cynnwys arian Cronfa Datblygu Rhanbarthau Ewrop, Arian Cyfatebol wedi ei Dargedu a Grant Prosesu a Marchnata fel rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.bodnant-welshfood.co.uk

 

Rhannu |