Mwy o Newyddion
Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol sy'n siarad Cymraeg
TAN yr wythnos hon nid yw Cymru wedi cael Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol sy’n siarad Cymraeg er 1974.
Roedd Peter Thomas yn enedigol o Lanrwst ac wedi cynrychioli etholaeth Conwy yn Llundain. Collodd ei sedd yn etholiad 1966 ond llwyddodd i ennill yn Hendon South yn 1970. Dyna pryd y daeth yn aelod o gabinet Edward Heath.
Bu’n Ysgrifennydd Gwladol tan 1974. Ond pan enillodd Mrs Thatcher yn 1979 ei dewis hi oedd Nicholas Edwards, Aelod Seneddol Penfro. Roedd yn cynrychioli etholaeth Gymreig ond nid oedd yn siarad Cymraeg.
Roedd ei ddirprwy, Wyn Roberts, Aelod Seneddol Conwy yn medru ymdrin â materion Cymraeg. Er iddo gael ei benodi yn Weinidog Gwladol ni chafodd y brif swydd yn 1987. Dewiswyd aelodau o etholaethau Lloegr i olynu Nicholas Edwards. Pan benderfynodd Syr Wyn Roberts beidio sefyll yn 1997 daeth yn Arglwydd Roberts o Gonwy.
Er na ellir cymharu’r swydd yn union fel oedd hi cyn datganoli mae David Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd yn torri tir newydd yn hanes llywodraethau Ceidwadol.
Mae’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy’n cynrychioli etholaeth Gymreig ac yn siarad Cymraeg. Cafodd ei eni yn Llundain ond derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Llundain a dychwelyd i ogledd Cymru i sefydlu busnes twrnai.
Daeth i amlygrwydd pan ddaeth yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru yn 2002 wrth i Rod Richards ymddiswyddo. Gwnaeth yn glir nad oedd am sefyll yn etholiad y Cynulliad 2003. Ond yn Etholiad Cyffredinol 2005 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd.
Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig rhwng 2005 a 2010 ac fe gafodd ei benodi'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn 2006.
Yn Etholiad Cyffredinol 2010 fe gafodd ei ailethol yn AS gyda mwyafrif o bron 6,500 ac yn fuan wedyn cafodd ei benodi'n Is-ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru.