Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Medi 2012

Cwnsler Cyffredinol Cymru yn ymweld â Seland Newydd

Bydd Theodore Huckle CF, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, yn mynd ar daith wib i Awstralia a Seland Newydd yr wythnos yma (7-12 Medi). Bydd rhaglen orlawn o’i flaen wrth iddo edrych sut y gallai Cymru ddysgu o brofiad diweddar y gwledydd hynny o egluro a symleiddio deddfwriaeth gymhleth.

Mae’r ymweliad yn rhan o ymchwiliad i’r ffordd fwyaf priodol o drefnu rhaglen i symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth yng Nghymru, gyda’r nod o sicrhau “llyfr statud” cydlynol ar gyfer Cymru. 

Mae gan Seland Newydd drefniadau diddorol i sicrhau bod deddfwriaeth ar gael yn rhwydd, yn ogystal â systemau mwy cyffredinol o ddatblygu a drafftio deddfwriaeth sy’n wahanol i’r rhai sydd ar waith yn y Deyrnas Unedig. Gallai’r systemau hyn fod yn gynsail rhannol i Gymru wrth iddi ddatblygu ei systemau ei hun. Mae angen y systemau hyn gan fod y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd yn llunio mwy a mwy o ddeddfwriaeth.

Yn Wellington, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod cyn Brif Weinidog, Gweinidog Cyfiawnder a Thwrnai Cyffredinol Seland Newydd, y Gwir Anrhydeddus Syr Geoffrey Palmer SC. Ef oedd yn gyfrifol am ddiwygio fframwaith cyfansoddiadol y wlad i raddau helaeth. Bydd hefyd yn cyfarfod yr Anrhydeddus Chris Finlayson AS, y Twrnai Cyffredinol presennol, Michael Heron, y Cyfreithiwr Cyffredinol, Bill Moore, Prif Gwnsler y Senedd, a Syr Grant Hammond SC, Llywydd Comisiwn y Gyfraith. Bydd yn ymweld â’r Goruchaf Lys, ac yn cyfarfod Ustus y Goruchaf Lys, yr Anrhydeddus Ustus John McGrath.

Dywedodd Theodore Huckle CF wrth sôn am ei ymweliad: “Rwyf eisoes wedi cyhoeddi ein nod o gyflwyno rhaglen gynhwysfawr i gydgrynhoi a diwygio cyfraith Cymru, gyda’r nod o sicrhau corff cydlynol o ddeddfwriaeth. Datblygu llyfr statud ar gyfer Cymru yw’r nod, a dylanwadu ar ei ffurf a’i natur.

“Mae’n anodd cael gafael ar ddeddfwriaeth a deall y gyfraith fel y mae’n berthnasol i Gymru ar hyn o bryd, gan ei bod wedi’i chydblethu â deddfau sydd hefyd yn berthnasol i Loegr a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae amgylchiadau unigryw Cymru yn golygu bod angen inni fynd ati i ddiwygio a chydgrynhoi deddfwriaeth mewn ffordd arloesol, gan edrych y tu hwnt i’r hyn a wnaed yn y Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Yn sicr, gallwn ddysgu o brofiad gwledydd y Gymanwlad fel Canada a Seland Newydd.” 

Bydd egwyddor cydgrynhoi yn cael ei sefydlu yn Seland Newydd cyn hir, a bydd dyletswydd ar y Twrnai Cyffredinol i hybu rhaglen dreigl o Filiau cydgrynhoi. Mae’r ffordd y mae’r llyfr statud wedi’i drefnu yn Seland Newydd hefyd yn helpu’r broses o gydgrynhoi, gan ei fod yn cynnwys elfen o godeiddio.

Fel Seland Newydd, mae gan Awstralia hefyd system sy’n golygu bod deddfau yn cael eu cydgrynhoi yn rheolaidd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn galw draw yn Sydney am gyfnod byr, er mwyn cyfarfod yr Anrhydeddus Greg Smith SC AS, Twrnai Cyffredinol De Cymru Newydd, Don Colaguiri, Prif Gwnsler Seneddol De Cymru Newydd a  Paul Millar, Cwnsler Cyffredinol, Adran y Prif Weinidog, De Cymru Newydd.

Ychwanegodd Mr Huckle: “Mae’n bwysig dysgu o brofiad pobl eraill ac archwilio strwythurau a gweithdrefnau a sefydlwyd yn awdurdodaethau eraill y Gymanwlad. Mae’r ymweliad hefyd yn gyfle inni dynnu sylw at Lywodraeth Cymru fel sefydliad sy’n fodlon cymryd camau pendant i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

“Bydd fy ymweliad â Seland Newydd ac Awstralia yn gyfle imi ddod i ddeall sut mae’r systemau sydd ar waith yn y gwahanol awdurdodaethau yn gweithio mewn gwirionedd, a sut y gellid eu haddasu mewn ymateb i’r sefyllfa sydd o’n blaenau yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau a wnawn yn seiliedig ar y dystiolaeth orau bosib, gan arwain at greu’r system sy’n gweddu orau i anghenion Cymru.”

Llun: Theodore Huckle QC

 

Rhannu |