Mwy o Newyddion
Chwilio am brosiectau tirwedd gorau Cymru
Mae awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i gynnig prosiectau ar gyfer gwobr uchel ei bri – sef prosiectau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd y tirwedd o ran trawsnewid bywyd yn y gymuned.
Pwrpas Gwobr Tirwedd y DU yw cydnabod prosiectau lle mae cyfraniad pobl leol wedi helpu i feithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth a gwella ansawdd bywydau pobl yn yr ardal. Mae’n dathlu ymdrechion yr holl bobl a’r holl sefydliadau sydd wedi gwireddu amcanion y prosiectau.
Caiff y wobr, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, ei threfnu ar y cyd gan Scottish Natural Heritage, DEFRA, Natural England, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Adran yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon. Cafodd ei chreu i ddangos pa mor bwysig yw hi i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill weithio gyda phobl leol i greu, diogelu a chyfoethogi lleoedd arbennig er budd y gymuned yn gyffredinol, ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Bydd enillydd gwobr 2012 yn cynrychioli’r DU yng Ngwobr Tirwedd Cyngor Ewrop yn 2013, gan ddod â chydnabyddiaeth ryngwladol i’r prosiect a’r sefydliadau a’r cymunedau a gyfrannodd ato.
Yn ôl Elinor Gwynn, Pennaeth y Grŵp Tirweddau a Phobl yn y Cyngor Cefn Gwlad: “Ar hyd a lled Cymru mae ’na enghreifftiau gwych o brosiectau tirwedd sy’n trawsnewid lleoedd a bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw.
"Gallai fod yn brosiect llwybr troed sy’n helpu cysylltu pobl â’u tirweddau lleol, neu gynllun adfywio sydd yn creu cyfleoedd i drigolion fwynhau a gwerthfawrogi tirweddau lleol a hynod, neu gynllun adfer cynefin sy’n cynnig manteision a chyfleoedd newydd i bobl a bywyd gwyllt – gall pob un o’r rhain gyfrannu at y modd y mae’r gymuned yn gweithio a’r ffordd y mae pobl yn teimlo amdanyn nhw’u hunain a’u hamgylchedd.
"Byddai’n wych pe bai prosiect o Gymru nid yn unig yn ennill y wobr, ond hefyd yn cael ei gydnabod ar lwyfan Ewropeaidd.”
Mae prosiectau tirwedd o bob math a maint yn gymwys – rhai trefol, gwledig neu arfordirol, rhai sydd newydd eu creu neu rai sydd ar eu newydd wedd. Ymhellach, mae gwaith arloesol sy’n ymdrin â thirweddau, fel datblygu polisïau a chanllawiau, hefyd yn gymwys ar gyfer y wobr.
Rhaid i’r prosiectau fod wedi bod ar waith gyda chymorth y cyhoedd ers tair blynedd o leiaf, a rhaid iddynt allu dangos y manteision sydd wedi dod yn eu sgil o fewn y cyfnod hwnnw. Y dyddiad cau yw 19 Hydref 2012.
Gellir cymryd rhan yn rhad ac am ddim, ac mae’r ffurflen gais ar-lein yn hawdd a hwylus i’w defnyddio.
I gael mwy o fanylion ac i weld y prosiectau a gymerodd ran yng Ngwobr Tirwedd y DU yn ystod 2010, ewch i: www.uklandscapeaward.org