Mwy o Newyddion
Adolygu dulliau integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru
Bydd un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar ba mor integredig yw trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Bydd ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes yn canolbwyntio ar wasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol ar draws Cymru, a pha ffactorau sy’n llesteirio’r broses o’u hintegreiddio ar hyn o bryd.
Bydd y prif faterion a ystyrir gan y Pwyllgor yn cynnwys:
- Sut y gellir cefnogi a gwella’r broses o integreiddio gwasanaethau rheilffyrdd, bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion cymunedau a busnesau yn ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd trefol Cymru?
- Pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru o ran hybu’r broses o integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus?
- Pa ddulliau arloesol o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru y gellid eu hystyried i greu system fwy integredig?
- I ba raddau y mae rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig gweithredwyr trafnidiaeth a chyrff cyhoeddus, yn llwyddo i gydweithredu i sicrhau gwasanaeth effeithiol?
- Sut y gall creu llwybrau datganoledig Network Rail Cymru gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ac integredig yng Nghymru?
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn ffactor allweddol mewn economi lwyddiannus ac i gynnal ein cymunedau.
“Rydym yn awyddus i glywed gan deithwyr fel rhan o’r ymchwiliad hwn – o gynllunio eich taith, gwirio amserlenni ac archebu tocynnau i deithio a chyrraedd pen y daith.
“Bydd ein hymchwiliad yn dangos darlun cyflawn o sut y mae’r rhwydwaith yn gweithredu a lle y mae modd gwneud gwelliannau.
“Rydym hefyd am glywed am ddulliau arloesol o lenwi unrhyw fylchau yn y system neu i wella ac integreiddio’r rhwydwaith ymhellach.”
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad anfon neges e-bost at pwyllgor.menter@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.
Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ddydd Gwener, 2 Tachwedd 2012.
Llun: Nick Ramsay