Mwy o Newyddion
Canmol Gwasanaeth Cwsmer y Parc Cenedlaethol
Cyflwynwyd tystysgrif “Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer” i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan Swyddfa’r Cabinet yr wythnos yma.
Mewn seremoni a gynhaliwyd ym Mhlas Tan y Bwlch, cyflwynodd Llinos Jehu, asesydd SGS United Kingdom dystysgrif i Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Cyng. Caerwyn Roberts. Fe’i rhoddwyd am gyrraedd safon arbennig wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd y ddarpariaeth honno, prydlondeb ymateb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff.
Yn yr adroddiad, canmolir yr Awdurdod am ei ymrwymiad i wasanaethu ei gwsmeriaid. Sonia’n benodol am yr Awdurdod yn gwella’i wasanaeth drwy wrando a deall anghenion defnyddwyr yn gyntaf, cyn buddsoddi i wella’i ddarpariaeth. Un enghraifft y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r gwaith ymchwil a wnaed i ganfod mwy am bobl sydd mewn peryg o gael damwain ddrwg ar y mynyddoedd ac yna’r dulliau o gyfathrebu â nhw i leihau damweiniau. Yn sgil y gwaith ymchwil, datblygwyd Ap i ddarparu cyngor a gwybodaeth ar ddiogelwch a thywydd ar y mynydd ac fe gyfeiriwyd pobl i ffwrdd o Grib Goch drwy adeiladu ffens dros dro. Mae’r adroddiad yn canmol hefyd waith yr Awdurdod wrth roi cyngor cynllunio am ddim i’r cyhoedd, datblygu partneriaethau gyda chymdeithasau lleol, a gwella’i ddarpariaeth yn y Canolfannau Croeso drwy wrando a deall anghenion cwsmeriaid yn gyntaf.
Ar ran yr Awdurdod, dywedodd Caerwyn Roberts: “Wrth fynd drwy’r broses hon, gwnaeth i ni feddwl yn fanwl am sut ydym yn delio â’n holl gwsmeriaid. Rydym yn falch inni gyrraedd safon arbennig wrth ddarparu’n gwasanaeth a fyddwn ni ddim yn llaesu dwylo. Yn ogystal â chynnal y safon uchel yr ydym wedi ei gyrraedd eisoes, byddwn yn edrych ar wella’n gwasanaeth ymhellach.
"Yn benodol, byddwn yn edrych ar dair elfen: y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu i gyfranwyr “Her y Tri Chopa” a sut mae cyfyngu ar y difrod gall yr her ei greu, yn ail, byddwn yn gwella’r gwaith dehongli ym Mhen y Pass, ac yna byddwn hefyd yn dechrau casglu data manylach i allu mesur boddhad cwsmeriaid.”
Dywedodd Llinos Jehu, asesydd ar ran SGS United Kingdom Ltd: “Mae’n glir fod ymrwymiad Parc Cenedlaethol Eryri i ddarparu gwasanaeth rhagorol yn rhedeg drwy’r holl sefydliad ac fe gyrhaeddir rhagoriaeth drwy waith caled llawer o bobl yn cyfrannu newn ffyrdd gwahanol.”
Hwn yw’r ail dro i Swyddfa’r Cabinet nodi cyrhaeddiad o’r fath i waith yr Awdurdod. Ym mis Gorffennaf 2009, cyflwynwyd “Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer” i Blas Tan y Bwlch, sef Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol y Parc Cenedlaethol ym Maentwrog.