Mwy o Newyddion
Ydych chi'n barod ar gyfer yr her dim gwastraff?
Mae trigolion Abertawe'n cael eu herio i fynd wythnos heb roi unrhyw wastraff yn eu sachau du.
Mae Cyngor Abertawe wedi lansio'r her 'Dim Gwastraff' i hybu ailgylchu a lleihau swm y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
Bydd gan bawb sy'n cymryd rhan yn yr her gyfle i ennill un o bedair gwobr arian gwerth £50 neu'r brif wobr sy'n werth £100.
Meddai Trish Fflint, Swyddog Ailgylchu Cyngor Abertawe, "Gall pawb gymryd rhan yn yr her Dim Gwastraff yn ystod unrhyw wythnos ym mis Medi.
"Rydym yn gofyn i deuluoedd feddwl am y gwastraff maen nhw'n ei roi mewn sachau du i weld a oes modd ei leihau drwy ddefnyddio dulliau eraill o gael gwared ar wastraff cartref fel ailgylchu ymyl y ffordd.
"Yn ogystal ag ailgylchu, hoffem i drigolion feddwl am y nwyddau maen nhw'n eu prynu ac am y pecynnu."
Bydd rhaid i deuluoedd sydd am gymryd rhan yn yr her gadw cofnod o bob eitem maent yn ei rhoi yn eu sachau du. Bydd angen iddynt hefyd bwyso'r gwastraff yn y sachau du a'r deunyddiau ailgylchu maent yn eu rhoi mewn sachau gwyrdd, pinc a'u gwastraff bwyd hefyd.
Ychwanegodd Trish Flint, "Drwy edrych yn fanwl ar swm y gwastraff maen nhw'n ei gynhyrchu a'r eitemau unigol maen nhw'n eu rhoi yn eu sachau du, gall teuluoedd feddwl a oedd angen yr eitemau hyn arnynt yn y lle cyntaf neu a oes modd eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu."
Ar hyn o bryd mae Abertawe'n ailgylchu 46% o'i gwastraff ac mae Llywodraeth Cymru am i bob cyngor yng Nghymru ailgylchu 52% erbyn y flwyddyn nesaf.
Meddai June Burtonshaw, aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Leoedd, "Mae angen i drigolion wneud popeth sy'n bosib i helpu i leihau swm y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
"Mae'r gwasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd yn darparu ffordd lawer gwell i drigolion gael gwared ar wastraff cartref."
Gall trigolion gael pecyn gwybodaeth yr Her Dim Gwastraff, ynghyd â manylion llawn am sut i gymryd rhan drwy ffonio 01792 635600 neu e-bostio recyclying@swansea.gov.uk