Mwy o Newyddion
Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi dau benodiad hŷn
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi dau benodiad hŷn i swyddogaethau Cyfarwyddwr Cyllid a Chyfarwyddwr Cynllunio.
Penodwyd Peter Curran i swydd Cyfarwyddwr Cyllid, ac mae’n ymuno ag Aberystwyth o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC).
Penodwyd Lucy Hodson i swydd Cyfarwyddwr Cynllunio ac mae’n ymuno ag Aberystwyth o Brifysgol De Montfort.
Peter Curran
Mae Peter Curran wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Cyllid. Ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy-Bennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), swydd y bu’n ymgymryd â hi ers 2006. Cyn hynny yr oedd yn Gyfarwyddwr Cyllid CBCDC o 2000 tan 2006 a gweithiodd gynt i Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd.
Yn CBCDC arweiniodd Peter yr ymgyrch i ddarparu a threfnu cyllid ar gyfer prosiect mawr newydd; canlyniad y prosiect yw bod yno bellach adnoddau ysgol gerdd o’r safon orau. Mae Peter hefyd yn aelod o Dîm Gweithredol Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain.
Graddiodd Peter ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ennill gradd BSc (Econ) mewn Economeg yn 1985, ac y mae’n aelod o’r Sefydliad Siartredig o Gyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Bu hefyd yn byw yn Neuadd Pantycelyn yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, ac yn ogystal â bod yn gyfarwydd iawn â’r Sector Addysg Uwch yng Nghymru, gall siarad Cymraeg sgyrsiol. Y mae’n daer yn ei fwriad i wella ei afael ar yr iaith.
Lucy Hodson
Mae Lucy ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cynllunio Strategol ym Mhrifysgol De Montfort, swydd y bu ynddi ers Ionawr 2008. Ymysg ei dyletswyddau ar hyn o bryd, mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol dros reolaeth gwybodaeth, dosbarthiad adnoddau, a rheolaeth risg, a bydd felly’n dod â phrofiad hanfodol i’w swydd newydd yn Aberystwyth.
Bu gynt yn Ysgrifennydd Bwrdd y Gyfadran Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, Pennaeth Gweinyddu yn y Sefydliad Peirianneg Meinweoedd a Moddion Adnewyddol yng Ngholeg Imperial, Llundain. Mae Lucy hefyd wedi gweithio yn y sectorau elusen a gwirfoddol.
Enillodd Lucy radd BA (Anrhydedd) mewn Hanes Modern ac Almaeneg yn 1985 o Goleg Wadham, Rhydychen, ac MA mewn Astudiaethau Islamaidd o Brifysgol Birmingham yn 1996. Y mae hefyd yn gweithio ar ddoethuriaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol St Andrews, ar y cyd a’i swydd ym Mhrifysgol De Montfort.
Mae Lucy’n Gadeirydd presennol ar Dîm Gweithredol y Grŵp Cynllunwyr Cenedlaethol - corff sy’n gweithredu ledled y DG sy’n mynegi anghenion a phryderon cynllunwyr addysg uwch ger bron y cynghorau cyllido ac asiantaethau addysg uwch eraill, ac yn trefnu cynadleddau a hyfforddiant cenedlaethol yn y maes.
Mewn ymateb i’r penodiadau dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser mawr gen i groesawi Peter a Lucy i Aberystwyth. Mae’r ddau wedi rhagori yn eu gyrfaoedd hyd yma, a bydd ganddynt rôl allweddol i’w chwarae yn y gwaith o gyflawni’r hyn sydd yn ein Cynllun Strategol. Rwy’n fodlon iawn fod y Brifysgol wedi llwyddo i ddenu cydweithwyr o’r fath safon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eu cyfraniad at Grŵp Gweithredol y Brifysgol.”
Bydd Lucy yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Tachwedd a Peter yn ymuno â’r Brifysgol yn fuan wedi hynny.