Mwy o Newyddion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn torri ei Gynllun Iaith
Mae adroddiad ymchwiliad statudol a gynhaliwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cael ei ryddhau heddiw.
Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi derbyn cwynion a oedd yn honni fod Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful yn cyhoeddi deunyddiau hyrwyddo uniaith Saesneg, yn cyfathrebu â’r cyhoedd ar bapur yn Saesneg, yn methu â darparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhwng swyddogion â’r cyhoedd, ac yn cyhoeddi taflenni gorfodaeth parcio sifil yn uniaith Saesneg.
Yn unol ag Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 cynhaliodd y Bwrdd ymchwiliad statudol i’r honiadau.
Yn ystod y broses o gynnal yr ymchwiliad, diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb am ymchwiliadau statudol i weithrediad cynlluniau iaith i Gomisiynydd y Gymraeg.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â phedwar allan o’r pum maes yr ymchwiliwyd iddynt, sef cyfathrebu ar bapur, cyfarfodydd eraill gyda chwsmeriaid, cyhoeddi ac argraffu deunyddiau, a ffurflenni a deunydd esboniadol.
Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i’r Cyngor er mwyn iddo adfer y sefyllfa a chydymffurfio â’i Gynllun Iaith yn y dyfodol. Mae’r argymhellion hynny’n cynnwys:
? pennu uwch swyddog, pwyllgor a rhoi gweithdrefn glir yn ei lle i sicrhau cydymffurfiaeth â’i Gynllun Iaith
? sicrhau gweithdrefnau priodol ar gyfer cyhoeddi deunydd ysgrifenedig yn ddwyieithog a sicrhau ymwybyddiaeth o’r gweithdrefnau ymysg staff
? cael gwybodaeth fanwl am allu presennol y Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, a hynny drwy wybod lefelau sgiliau iaith Gymraeg ei staff a pharatoi Strategaeth Sgiliau Ieithyddol – a fydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer hyfforddiant iaith ymysg materion eraill
? paratoi cynllun cadarn, ag iddo amserlen fanwl a chlir, ar gyfer datblygu a chynnal gwefan ddwyieithog sy’n sicrhau fod gan y Cyngor bolisi eglur ar ddefnyddio’r Gymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol, megis Facebook a Twitter a’u tebyg
Bydd swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn monitro gweithrediad y Cyngor o’r argymhellion.
Llun: Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws